Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC120-0724
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Cyflawni Digidol - Prif Ddadansoddwr Cymorth a Busnes
Band 7
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) fel Prif Ddadansoddwr Busnes a Chymorth ar gyfer Cyflenwi Digidol.
IGDC yw sefydliad darparu gwasanaethau digidol cenedlaethol Cymru. Mae’n arwain y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yn ddigidol ledled Cymru, gan weithio’n agos â sefydliadau eraill GIG Cymru a rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol eraill. Mae IGDC yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglenni mawr gan gynnwys yr Adnodd Data Cenedlaethol, Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, Ap GIG Cymru, a System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
Bydd hon yn rôl bwysig o fewn y sefydliad, gan weithio yn Nhîm Cyflenwi Digidol Gweithrediadau gydag uwch arweinwyr a thimau ar draws y sefydliad a chyda rhanddeiliaid allanol. Bydd y rôl yn helpu i gynhyrchu mewnwelediadau a fydd yn llywio cyfeiriad strategol Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau IGDC.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o'r tîm Cyflenwi Digidol, byddwch yn gyfrifol am sefydlu rheolaeth mewnwelediad gwybodaeth i yrru darpariaeth ar draws y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion rhanddeiliaid, gan awtomeiddio trwy offer adrodd lle bo angen.
Byddwch yn cefnogi, yn dylunio ac yn datblygu mewnwelediadau i’w defnyddio ar draws Gweithrediadau ac ar gyfer cynulleidfa ehangach o randdeiliaid, gan ddefnyddio cymwysiadau fel MS Project, cymhwysiadau Gwe, Power BI.
Trwy gydol y gwaith hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth arbenigol o anghenion a blaenoriaethau IGDC a sefydliadau eraill GIG Cymru, a defnyddwyr ein gwasanaethau digidol. Byddwch yn gweithio gyda’r tîm Gweithrediadau i flaenoriaethu gweithgareddau, fel y gallwn ddatblygu a darparu gwasanaeth digidol sy'n arwain y byd sy’n gwella bywydau pobl Cymru.
Un o’n cenadaethau sefydliadol yw bod yn Bartner Dibynadwy. Byddwch yn esiampl dda ar gyfer cydweithio yn IGDC, yng nghyd-destun cenedlaethol ehangach GIG Cymru, gyda Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid eraill yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ynghlwm yn y dogfennau ategol, mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person. Fel arall, cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau a phrofiad Power BI
- Gradd Meistr mewn pwnc sy’n gysylltiedig â gwybodaeth a TG neu brofiad cyfatebol
- Tystysgrif sylfaen PRINCE 2/APM mewn rheoli prosiectau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd ystwyth
- Ymarferydd rheoli prosiect PRINCE 2/APM
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad o ddadansoddi, dylunio a chefnogi systemau Gwybodaeth a TG
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu â staff hyd at lefel uwch ar brosesau busnes neu glinigol cymhleth
- Yn gallu dysgu technolegau a systemau TG newydd yn gyflym trwy gyrsiau hyfforddi arbenigol ac astudio’n annibynnol.
- Yn gallu trefnu eich gwaith eich hun yn effeithiol a gweithio ar eich pen eich hun.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bryony Clark
- Teitl y swydd
- Associate Director of Digital Delivery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector