Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Datblygwr Rheoli Gwasanaethau
Band 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle gwych i Ddatblygwr Rheoli Gwasanaethau, sy’n gweithio o fewn y Tîm Rheoli Gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion drwy ddatblygu a defnyddio trefniadau cymorth cymhleth ledled GIG Cymru; gan gynnwys cytundebau, cynlluniau, gweithdrefnau a mesurau ar gyfer Gwasanaethau TG clinigol ac anghlinigol cenedlaethol penodol.
Bydd y swydd yn dod â’r deiliad i gysylltiad â phob maes ITIL a Rheoli Gwasanaethau, gan gynnwys datblygu sgiliau archwilio yn erbyn safon ISO 20000.
Bydd yr ymgeiswyr cywir yn llythrennog iawn, bydd ganddynt brofiad o gyflwyno mewn amgylchedd TG ac, yn ddelfrydol, bydd ganddynt wybodaeth ymarferol o sut mae gwybodaeth a thechnoleg yn cefnogi darparu gwasanaethau cleifion ledled GIG Cymru.
Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar brofiad o Reoli Gwasanaethau TG a bydd yn gallu disgrifio’r disgyblaethau sy’n rhan o fframwaith ITIL, a naill ai feddu ar neu’n gweithio tuag at ennill cymhwyster Sylfaen ITIL.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Datblygu a gweithredu trefniadau Rheoli Gwasanaethau TG ar gyfer Gwasanaethau IGDC yn unol â’r fanyleb a’r arweiniad a ddarperir gan Arweinwyr Rheoli Gwasanaethau TG a Phrif Arbenigwyr Rheoli Lefel Gwasanaeth ac yn unol â Fframwaith ITIL.
Sicrhau bod y trefniadau Rheoli Gwasanaethau TG yn gadarn ac yn addas i’r diben trwy archwilio a Gwella Gwasanaethau yn Barhaus.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am 31/03/25 otherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ynghlwm yn y dogfennau ategol, mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person. Fel arall, cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae’r swydd hon ar gyfer cyfnod penodol / yn secondiad ar gyfer 9 mis.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer y swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad gan eich rheolwr llinell presennol cyn I chi wneud cais am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth
- Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli Gwasanaethau TG (ITIL) neu brofiad TG amlwg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth am themâu cyfredol Gofal Iechyd yng Nghymru
- • Dealltwriaeth glir o’r gydberthynas rhwng agweddau ar seilwaith TG cymhleth a gofynion cefnogi gwasanaethau
- • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl a chymhlethdodau rheoli gwasanaethau a gwella gwasanaethau’n barhaus
Meini prawf dymunol
- • Gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau sector cyhoeddus i wahanol sefydliadau
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig
- • Yn gallu dadansoddi materion TG cymhleth i ddarganfod datrysiadau i broblemau sylfaenol
- • Sgiliau dadansoddi data
- • Sgiliau cyflwyno
- • Sgiliau negodi a pherswadio
- • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a diplomyddol da
- • Sgiliau rheoli amser a datrys problemau
Meini prawf dymunol
- • Diddordeb mewn rhoi datblygiadau technolegol ar waith yn briodol
- • Lefel uchel o sgiliau cefnogi
- • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu’n barod i weithio tuag at hynny
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Rees
- Teitl y swydd
- Service Management Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector