Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (FTC ends 31/03/2025)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC103-0624
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio hybrid
- Tref
- Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 pa pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Swyddog Cefnogi Rheoli Gwasanaeth
Band 4
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon ar gyfer cyfnod penodol / yn secondiad ar gyfer 9 mis.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer y swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad gan eich rheolwr llinell presennol cyn I chi wneud cais am y swydd hon.
Rheoli’r cymorth gwasanaeth a ddarperir i dîm Rheoli Gwasanaethau TG Iechyd Cymru, er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau effeithlon i’r holl staff a defnyddwyr gwasanaeth.
I fod â chyfrifoldeb arweiniol dros Iechyd a Diogelwch ar gyfer tîm Rheoli Gwasanaethau TG Iechyd Cymru.
Rheoli’r systemau sydd ar waith yn IGDC a hyrwyddo ymwybyddiaeth a rhoi arweiniad ar bolisïau, prosesau a gweithdrefnau.
Cefnogi Byrddau Rheoli Gwasanaethau TG Cenedlaethol a gweithredu fel pwynt cyswllt.
Cefnogi a dirprwyo ar ran y Rheolwr Swyddfa.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gan sicrhau dull cyson ar draws pob Bwrdd Rheoli Gwasanaethau. Blaenoriaethu gwaith fel bod pob agwedd ar y gwasanaethau yn gwbl weithredol, yn amserol ac yn ymatebol. Gall hyn gynnwys cyflawni swyddogaethau gweinyddol i gefnogi swyddogaethau technegol.
Rheoli gofynion gweinyddol a chynorthwyo Arweinwyr Rheoli Gwasanaethau o fewn y sefydliad. Cydlynu apwyntiadau dyddiadur, trefnu cyfarfodydd, cyfathrebu ag ystod eang o gydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid, gan gynnwys trefnu, gweinyddu a chadw cofnodion ar gyfer Byrddau Rheoli Gwasanaethau TG rheolaidd.
Rhoi cymorth i Arbenigwyr ac Arweinwyr Rheoli Gwasanaethau wrth ddatblygu a defnyddio trefniadau Trosglwyddo a Rheoli Lefel Gwasanaeth.
Defnyddio amrywiaeth o gymwysiadau TG yn rheolaidd i greu adroddiadau ac adroddiadau cynnydd a chynnal systemau gwybodaeth.
Dyletswyddau Warden Tân.
Darparu gwasanaeth Derbynfa a Ffôn pan fo angen.
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Swyddfa yn ôl yr angen.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster rheoli/gweinyddol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygiad lefel uwch perthnasol pellach – addysg a/neu hyfforddiant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o gydlynu/cefnogi mewn rôl debyg
- Gweithio gyda rhanddeiliaid uwch
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol ardderchog wrth ddelio ag ystod eang o randdeiliaid
- Yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws timau aml-swyddogaeth a ffiniau sefydliadol.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
- Gallu rheoli llwythi gwaith cymhleth ac amldasgio mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif.
- Yn gallu defnyddio cymwysiadau bwrdd gwaith i hwyluso’r gwaith
- Yn gallu teithio i wahanol safleoedd yng Nghymru
Meini prawf dymunol
- Dangos lefel uchel o gymhelliant.
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Howlett
- Teitl y swydd
- Office Administration Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector