Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwybodeg Glinigol
- Gradd
- Band 8a
- Contract
- Cyfnod Penodol: 18 mis (Fixed term to 31/01/2026 to meet the needs of the service)
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC113-0724
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 per annum pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/08/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Uwch Wybodegydd Clinigol - Fferyllfa
Band 8a
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 18 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae Cymru wedi cychwyn ar brosiectau a rhaglenni cyffrous, newydd i drawsnewid rhagnodi electronig ar draws pob lleoliad gofal. Dan arweiniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae’r rhaglen Moddion Digidol yn gweithio gyda Byrddau Iechyd, darparwyr gofal sylfaenol a rhanddeiliaid eraill i ddigideiddio prosesau rheoli meddyginiaethau. Bydd hyn yn galluogi creu ac anfon presgripsiynau’n electronig ac yn ei gwneud yn bosibl i gleifion a’u darparwyr gofal gael mynediad at wybodaeth am feddyginiaethau cleifion.
Cefnogi’r rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) mewn ysbytai a’r prosiect Cofnod Meddyginiaethau a Rennir, yn ogystal â dadansoddi, gofynion, ymgysylltu, newid busnes a gwybodeg glinigol. Ar y cyd ag aelodau eraill o’r Rhaglen ePMA a’r Prosiect Cofnod Meddyginiaethau a Rennir, bydd gofyn i chi arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu datrysiadau digidol ac ymgysylltu a chydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau bod ffyrdd newydd o weithio’n cael eu darparu er mwyn sicrhau gofal clinigol a gofal cleifion mwy diogel.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sganio’r Gorwel: Cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau datrysiadau digidol i lunio mapiau trywydd cynnyrch clinigol.
Arweinyddiaeth: Darparu arweinyddiaeth glinigol.
Arbenigedd Clinigol: Arwain buddion canlyniadau clinigol, sicrhau diogelwch cleifion, a hyrwyddo arferion gorau.
Gwella Ansawdd: Defnyddio arbenigedd i wella prosesau a chanlyniadau.
Rheoli Risg: Asesu a rheoli diogelwch clinigol a risgiau wrth ddylunio systemau.
Datblygiad Proffesiynol: Cynnal gwybodaeth ar ymarfer clinigol a chyfrannu at ddatblygiad y gweithlu.
Cyngor Strategol: Dylanwadu ar strategaeth trawsnewid digidol a chefnogi arweinwyr digidol byrddau iechyd.
Effaith Polisi: Deall polisïau a’u heffaith ar gyflenwi digidol.
Safonau: Cymhwyso safonau clinigol i ddigidol.
Swyddog Diogelwch Clinigol: Goruchwylio diogelwch clinigol ar gyfer IGDC fel y penodwyd.
Sicrhau Ansawdd: Cydweithio i fodloni gofynion clinigol.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Rheoli disgwyliadau a blaenoriaethu datblygu ar gyfer defnyddioldeb clinigol.
Llywodraethu: Gweithredu llywodraethu gwybodeg glinigol mewn amgylcheddau prosiect.
Modelau Darparu Gofal: Defnyddio gwybodaeth am GIG Cymru a modelau gofal y DU ar gyfer prosiectau digidol.
Monitro Gwasanaethau Gofal Iechyd: Defnyddio gwybodeg ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd a gweithredu safonol.
Ymchwil a Gwneud Penderfyniadau: Cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth wrth ddylunio datrysiadau digidol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu arweinyddiaeth gwybodeg glinigol i hwyluso darganfod, datblygu, mabwysiadu ac optimeiddio newid sydd wedi’i alluogi’n ddigidol. Deall yr heriau presennol ar draws y maes iechyd a lles, modelau darparu gofal, sefydliadau a llywodraethu ar draws y llwybr gofal, gan gynnwys eu cydberthnasau (e.e. contractwyr Gofal Sylfaenol, ysbytai, gwasanaethau ambiwlans, cartrefi gofal, gwasanaethau cymunedol) a sut maen nhw’n dylanwadu ar ddarpariaeth prosiectau/rhaglenni gwybodeg.
Sefydlu a chynnal hygrededd, cyfathrebu effeithiol a phartneriaethau ar bob lefel ar draws y rhaglenni cenedlaethol, yn fewnol o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), gyda chlinigwyr a chydweithwyr mewn Byrddau Iechyd, grwpiau GIG Cymru (e.e. Cyfarwyddwyr Meddygol, Cyfarwyddwyr Nyrsio a Therapïau, Prif Fferyllwyr), Awdurdodau Lleol, grwpiau proffesiynol eraill ac arweinwyr polisi a chlinigol Llywodraeth Cymru.
Deall archwiliadau clinigol, rheoli risg, sicrwydd, effeithiolrwydd clinigol a datblygu staff sy’n cyd-fynd â fframweithiau llywodraethu clinigol, gan ddefnyddio data a gwybodaeth yn effeithiol i nodi gwelliannau i wasanaethau a phenderfynu sut y gall gwybodeg gynorthwyo wrth fonitro a gweithredu gwasanaethau a safonau gofal iechyd.
Sganio’r gorwel am ddatblygiadau digidol yn eich maes proffesiynol, gan nodi arfer gorau, cefnogi buddion clinigol, a rhaglenni dysgu.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster clinigol proffesiynol a chofrestriad dilys gyda’r corff llywodraethu clinigol priodol (yn unol â’r arbenigedd clinigol a hysbysebir).
- Addysg hyd at lefel meistr mewn pwnc perthnasol, e.e. pwnc sy’n gysylltiedig â gwybodeg ddigidol neu glinigol, neu brofiad cyfatebol o weithio ym maes gwybodeg glinigol.
- Gwybodaeth am systemau gwybodaeth gofal iechyd, cofnodion iechyd electronig, safonau data iechyd a methodolegau dadansoddi data
- Gwybodaeth am reoliadau gofal iechyd perthnasol, megis GDPR a pholisïau Llywodraethu Gwybodaeth GIG Cymru
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o system gofal iechyd Cymru i ddeall cyd-destun a gofynion darpariaeth gofal iechyd
- Cymhwyster Diogelwch Digidol Clinigol ar Lefel Ymarferydd
- Cymhwyster dadansoddi busnes a/neu reoli newid, neu brofiad ar lefel briodol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol sylweddol o weithio mewn lleoliad gofal iechyd ar ôl cofrestru
- Profiad o arwain a rheoli gweithredol
- Profiad o ddatblygu neu drawsnewid gwasanaethau ac o rôl systemau digidol
- Profiad o sicrhau ansawdd clinigol gwasanaethau a systemau
- Profiad a dealltwriaeth o'r broses rheoli newid.
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain prosiectau gwybodeg, gan gynnwys cynllunio, gweithredu a gwerthuso systemau clinigol digidol
- Profiad o gyfrannu at raglenni dysgu
- Profiad o brofi gan gynnwys creu data prawf a darparu mewnbwn i strategaethau, cynlluniau a sgriptiau profi.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf i gydweithio’n effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid
- Yn gallu nodi a datrys heriau gwybodeg glinigol cymhleth, gwella effeithlonrwydd llif gwaith, a gwella canlyniadau gofal cleifion
- Dangos barn gadarn a’r gallu i wneud penderfyniadau pan fo’n rhaid ystyried ffeithiau neu sefyllfaoedd cymhleth iawn ar draws portffolio’r Gyfarwyddiaeth.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- James Goddard
- Teitl y swydd
- Hospital e-Prescribing Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector