Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr
Gradd 4
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol i ddarparu cymorth gweinyddol, clerigol a busnes cynhwysfawr, cyfrinachol, gan gynnwys elfennau o gymorth prosiect o fewn y Gyfarwyddiaeth Llywodraethu Corfforaethol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y tîm, gan ddelio ag ac ymateb yn effeithiol i ymholiadau cymhleth gan randdeiliaid a throsglwyddo gwybodaeth berthnasol i aelodau priodol y tîm yn sensitif ac yn annibynnol.
Datblygu a chynnal systemau ffeilio electronig a phapur effeithiol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel a’i bod yn hygyrch i aelodau eraill o’r tîm.
Darparu cefnogaeth weinyddol gan gynnwys, pan fo’n briodol, i holl aelodau’r tîm i gefnogi ystod o fentrau adrannol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu rhoi eu profiadau ar waith ac sydd â sgiliau cryf yn y meysydd canlynol:
- Bydd yr ymgeiswyr cywir yn llythrennog iawn, bydd ganddynt brofiad o gyflawni mewn amgylchedd Gwybodeg ac, yn ddelfrydol, bydd ganddynt wybodaeth ymarferol o sut mae gwybodaeth a thechnoleg yn cefnogi darparu gwasanaethau cleifion ledled GIG Cymru.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a threfnu rhagorol.
- Darparu gwasanaeth rheoli dyddiadur gyda’r gallu i ddatrys apwyntiadau ac amserlenni sy’n gwrthdaro.
- Rheoli, trefnu a chefnogi’r gwaith o gynllunio cyfarfodydd, digwyddiadau a chynadleddau cymhleth.
- Paratoi agendâu a chofnodion, cymryd camau dilynol priodol yn ôl yr angen, a chynnal logiau gweithredu, cofrestrau risg a logiau penderfyniadau.
-
Darparu cymorth mewn perthynas â rheoli asedau a gwasanaethau ystadau/cyfleusterau.
-
Nodi problemau neu gyfleoedd a chymryd y camau angenrheidiol. Sgiliau datrys problem da a'r gallu i weithio o dan bwysau.
-
Darparu cymorth mewn perthynas â ffeilio, cymorth archwilio a chynnal cofnodion.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi derbyn addysg BTEC a/neu Alwedigaethol Lefel 3 neu Lefel A neu gyfwerth; ynghyd â gwybodaeth am swyddogaeth arbenigol, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad y gellir ei ddangos mewn rôl weinyddu
- Profiad blaenorol o ddelio â chwsmeriaid, cleientiaid a/neu aelodau o'r cyhoedd
- Experience of project support workProfiad o waith cefnogi prosiectau
- Profiad o drawsgrifio a chymryd cofnodion.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth dda am feddalwedd MS Office
- Yn gallu gweithio’n annibynnol a rheoli eich baich gwaith eich hun
- Sgiliau cyfathrebu da Sgiliau trefnu da
- Gweithio o fewn terfynau amser ac o dan bwysau
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Yvonne Waughington
- Teitl y swydd
- Office Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector