Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Llwybr Sgrinio
Gradd 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD 7 MIS TAN 31/03/2025 OHERWYDD CYFNOD SECONDIAD.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae cyfle wedi codi am Gweinyddwr Sgrinio llawn amser i ymuno’r Gweinyddu/Llinell Cymorth yn seiliedig yn ein canolfan yn Llantrisant. Ar safle tymor-penodol tan Mawrth 31ain 2025.
Bydd angen ar y deiliad i weithio fel rhan o dim yn cyfrifol am sicrhau’r cyflenwad llwyddiannus o’r Rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru a’r Rhaglen Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru. Fydden nhw yn gyfrifol am ddarparu gweinyddiaethau cymorth hanfodol i sicrhau’r gweithredu effeithlon am yr alw/adalw ar swyddogaethau rhag methu o’r ddwy rhaglen.
Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, sydd yn angen y gallu i delio gyda ystod eang o rhan ddeiliaid, tasgau a ddyddiadau cau. Mae yna gofyniad i trefnu, blaenoriaethu a chynllunio eich llwyth gwaith er mwyn cyflawni eich amcanion. Gwaith tim yn hanfodol ir rôl hon gyda sgiliau ffon rhagorol a lefel uwch o cywirdeb wrth mewnbynnu ddata a llwybr cyfranogwyr.
Os oes gyda chi’r profiad perthnasol ac yn hunan ysgogol, gyda’r gallu i jyglo a blaenoriaethu ystod o dasgau hoffem glywed gennych chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ateb ymholiadau i’r llinell gymorth SCC ac AAA a gweithio mewn gallu gweinyddol. Cefnogi’r gwaith gweinyddol sy’n hwyluso’r broses o alw/adalw pobl yn effeithlon ac am systemau diogelu rhag methu’r Is-adran Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i hwyluso’r gwaith o ateb gofynion gweinyddu’r rhaglenni sgrinio yn yr ardal. Mae’r disgrifiad sy’n dilyn o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau o safbwynt y rhaglenni sgrinio unigol, ond mae’r gofynion o ran gallu’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob un o’r rhaglenni sgrinio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler disgrifiad swydd atodedig a manyleb person am fwy o fanylion
- Delio â galwadau i’r Llinell Gymorth gan gyfranogwyr, aelodau o’r cyhoedd ac aelodau staff o wasanaethau GIG eraill yn Gymraeg a Saesneg
- Delio â galwadau ffôn gan gyfranogwyr sydd angen asesiadau gan y Nyrs Sgrinio sy’n gweithio yn yr ysbytai lleol ar hyd a lled Cymru
- Prosesu llythyrau gwahodd a chanlyniadau ar ran y rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru
- Ffeilio, storio a dadbacio taflenni a phapur.
- Ymateb a gweithredu ymholiadau o Gyfranogwyr i’r gwefan
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg (graddau A*-C) neu lefel cymhwyster neu brofiad cyfatebol
- NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu Ofal Cwsmer neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol amlwg gyda pharodrwydd i weithio tuag at ddiploma mewn sgrinio
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau gweinyddol perthnasol neu gyfwerth â TG
Gwybodaeth a Phrofiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol blaenorol
- Lefel dda o wybodaeth ar draws ystod eang o swyddogaethau gweinyddol
- Profiad blaenorol o ddelio â phobl dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG
- Gwybodaeth a dealltwriaeth neu raglenni sgrinio
Sgiliau a nodweddion personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gynnal lefel uchel o gywirdeb
- Y gallu i weithio'n dda dan bwysau a pharhau i ganolbwyntio wrth ddelio ag ymyriadau cyson
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol da - ysgrifenedig, wyneb yn wyneb a dros y ffôn
- Y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Melanie Bowey
- Teitl y swydd
- Screening Pathway Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 235142
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Josh Jones
Cydlynydd Llwybr Sgrinio
01443235146
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector