Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
Secondiad: 10 mis (CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC302-0824W
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sgrinio Coluddion Cymru
Tref
Llantrisant
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gweinyddwr Llwybr Sgrinio

Gradd 3

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ateb ymholiadau i’r llinell gymorth SCC ac AAA a gweithio mewn gallu gweinyddol. Cefnogi’r gwaith gweinyddol sy’n hwyluso’r broses o alw/adalw pobl yn effeithlon ac am systemau diogelu rhag methu’r Is-adran Sgrinio.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i hwyluso’r gwaith o ateb gofynion gweinyddu’r rhaglenni sgrinio yn yr ardal.  Mae’r disgrifiad sy’n dilyn o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau o safbwynt y rhaglenni sgrinio unigol, ond mae’r gofynion o ran gallu’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob un o’r rhaglenni sgrinio.

 Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ateb ymholiadau o’r llinell gymorth wrth ddefnyddio’r system wybodaeth i brosesu gwahoddiadau, apwyntiadau a chanlyniadau’n gywir ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r rhaglen. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rhan o’r broses ddilysu er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd yn gyfrifol hefyd am gofnodi gwybodaeth sydd wedi’i chodio’n gywir ac am ddiweddaru’r systemau papur a chyfrifiadurol sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cleifion. Deiliad y swydd hefyd fydd y man cyswllt cyntaf i gyfranogwyr sy’n awyddus i newid apwyntiadau i gael prawf sgrinio a/neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y broses sgrinio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ateb ymholiadau i’r llinell gymorth SCC ac AAA a gweithio mewn gallu gweinyddol. Cefnogi’r gwaith gweinyddol sy’n hwyluso’r broses o alw/adalw pobl yn effeithlon ac am systemau diogelu rhag methu’r Is-adran Sgrinio.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i hwyluso’r gwaith o ateb gofynion gweinyddu’r rhaglenni sgrinio yn yr ardal.  Mae’r disgrifiad sy’n dilyn o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau o safbwynt y rhaglenni sgrinio unigol, ond mae’r gofynion o ran gallu’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob un o’r rhaglenni sgrinio.

 

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 10 MISOEDD OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • • O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg (graddau A*-C) neu lefel cymhwyster neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • • NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu Ofal Cwsmer neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol amlwg gyda pharodrwydd i weithio tuag at ddiploma mewn sgrinio

Gwybodaeth a Phrofiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad gweinyddol blaenorol
  • • Lefel dda o wybodaeth ar draws ystod eang o swyddogaethau gweinyddol
  • • Profiad blaenorol o ddelio â phobl dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Meini prawf dymunol
  • • Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG
  • • Gwybodaeth a dealltwriaeth neu raglenni sgrinio

Sgiliau a Phriodoleddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • • Y gallu i gynnal lefel uchel o gywirdeb
  • • Y gallu i weithio'n dda dan bwysau a pharhau i ganolbwyntio wrth ddelio ag ymyriadau cyson
Meini prawf dymunol
  • • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol da - ysgrifenedig, wyneb yn wyneb a dros y ffôn
  • • Y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Josh Jones
Teitl y swydd
Screening Pathway Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 235146
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg