Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
dan hyfforddiant/Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol
Band 6, Band 5 neu Band 5 - Annex 21 (75% or man uchaf or cyflog) yn dibynnu ar profiad
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Nodwch y gall y penodiad gael ei wneud ar Fand 5 atodiad 21, Band 5 neu Fand 6 yn dibynnu ar brofiad.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.
Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Feiroleg yn Ysbyty Grange Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.
I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/Feiroleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol.
Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod yn hyblyg, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg. Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.
Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.
Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd Cyhoeddus Microbioleg Cymru yn Sefydliad Genedlaethol iechyd cyhoedd yn Cymru. Ein gweledigaeth ni ydy ‘Gweithio gyda’n gilydd I cyflawni dyfodol iachus I Gymru’ lle ydy’n ni yn chaware swydd allweddol i yrru gwellhad mewn iechyd y boblogaeth, gwella canlyniadau iechyd, gostyng anghydraddoldebau iach, amddifyn y cyhoedd a chefnogi y ddatblygiad o iechyd mewn pob polisi yng Nghymru.
Mae’s sefydliad yn dilyn y gwerth ‘Gweithio gyda’s gilydd, gyda parch ac ymddiried, i gwneud gwahaniaeth’. Rydym ni yn ymroddedig i greu gweithle sydd yn rhoi werth I gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad. Croesawir ceisiadau sydd yn cynrychioli’r amrywiaeth yn y gymuned, a’r rhai sydd eisiau gweithio rhan amser.
Am fwy o wybodaeth am weithio I ni, y manteision ar gynnig ac arweiniad ar y proses ymgeisio, gweler https://phw.nhs.wales/working-for-us/applicant-information-and-guidance/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Previous experience
Meini prawf hanfodol
- Profiod Feicrobioleg mewn labordy clinigol
- Profiad ansawdd
- Profiad Iechyd a diogelwch mewn labordy
- Y gallu i ddatrys problemau
- Profiad technegau molecwlaidd
Meini prawf dymunol
- Profiad dilyn cyfarwyddiadau
- Profiad goruwchwylio staff
- Y gallu i gweithio wrth dy hun
- Profiad gweithio mewn tim
- Profiad hyffordi eraill
IT
Meini prawf hanfodol
- Cymwys defnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
- Profiad defnyddio system LIMS
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Gradd sydd yn caniatau cofrestru gyda'r HCPC
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn labordy NHS
- Gwyddonydd sydd wedi cofrestru gyda'r HCPC
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ellen O'Brien
- Teitl y swydd
- Hot lab Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07879038936
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Alec Stewart Uwch wyddonydd Biofeddygol - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector