Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Sgriniwr WAAASP AAA
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol: Swydd hyfforddai
Oriau
Rhan-amser - 26 awr yr wythnos (Gweithio yn hyblyg 8 awr y dydd o Dydd Llun i Ddydd Gwener.( 30 munud torriad di-dal))
Cyfeirnod y swydd
028-ACS024-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata dan Atodiad 21
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Sgriniwr AAA dan hyfforddiant

Band 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

 Band 4 ar gael ar gyfer Sgriniwr AAA dan hyfforddiant.

Cwmpesir y swyddi hyn o dan drefniadau cyflog Atodiad 21 y GIG. Bydd hyn yn golygu trefniant dim anfantais i weithwyr presennol y GIG. A  parhad uchafswm y cyflog presennol i frig Band 3 am gyfnod yr hyfforddiant. Unwaith y bydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau, mae'r cyflog yn symud i waelod Band 4 ac mae'r dyddiad codiad yn newid i adlewyrchu hyn. Ymgeiswyr y tu allan i’r GIG, mae’r trefniant cyflog 75% ar frig Band 4 am gyfnod yr hyfforddiant, er y gellir gwneud cais am gredyd am brofiad perthnasol i fynd â’r cyflog i frig Band 3.

Rhoddwyd Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru ar waith ar 1 Mai 2013 a’i nod yw haneru’r marwolaethau sy’n gysylltiedig ag AAA yn y boblogaeth gymwys erbyn 2025, hynny yw, dynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru.

Bydd disgwyl i'r sgriniwr dan hyfforddiant gyflawni'r diploma lefel 4 mewn sgrinio AAA a diploma lefel 3 mewn hanfodion sgrinio iechyd. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys asesiadau academaidd ac ymarferol. Bydd y rôl yn cwmpasu rhanbarth De-ddwyrain Cymru, gyda gofyniad achlysurol i deithio i ranbarthau eraill yng Nghymru. Unwaith y bydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau bydd deiliad y swydd wedyn yn dod yn sgriniwr AAA parhaol.  Mae'r rôl hon yn gofyn am gydsymud llaw a llygad rhagorol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

Bwriedir cynnal cyfweliadau ym Llandudno, Rheol Maesdu 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Sgriniwr yn rhoi gwybodaeth briodol i ddynion sy'n mynd i glinigau sgrinio a gwyliadwriaeth yn y gymuned, yn enwedig pan fo rhwystrau i ddeall yn bodoli. Bydd y Sgriniwr yn sicrhau bod dynion sy'n mynychu clinigau yn cael yr holl wybodaeth berthnasol ac yn gwybod am oblygiadau sgrinio AAA cyn iddynt roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.

Cynnal archwiliad uwchsain abdomenol i benderfynu a oes ymlediad yn bresennol ai peidio a rhoi'r canlyniadau a'r cyngor priodol.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg
  • NVQ 3 neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant arbenigol ar lefel diploma

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio gyda phobl
  • Deall gofal i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Gweithio yn rhan o raglen sgrinio
  • Gweithio mewn lleoliad fasgwlaidd neu radiograffeg
  • Deall terminoleg feddygol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd clinigol

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Sensitif i anghenion dynion a gofalwyr

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am raglenni sgrinio
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn siarad ac yn ysgrifennu Saesneg yn glir
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Yn gallu gweithio mewn tîm
  • Cydsymud ardderchog rhwng y llaw a’r llygad
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad Cymraeg

Other

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gyrru a bod yn barod i deithio

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Janet Garnett
Teitl y swydd
Regional Nurse Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07725138238
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Samantha Roberts

Uwch Sgriniwr

[email protected]

(Mewn oriau 9 tan 5)

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg