Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Swyddog Cefnogi Prosiectau
Band 4
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae’r Rhwywaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser yn sefydliad strategol cyffrous i weithio iddo – yn ysgogi cydweithrediad rhwng Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau, sefydliadau proffesiynol ac elusennol ac yn anelu at wella profiad ac ansawdd gwasanaethau i bobl sy’n cael diagnosis o ganser. Er mwyn cyflawni ein nod, mae ein rhaglenni gwaith yn canolbwyntio ar ganfod yn gynnar, diagnosis, triniaeth a llwybrau gofal.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Prosiect, gan ddarparu cymorth gweinyddol lefel uchel, cysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliad ac ystod eang o weithwyr proffesiynol gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu cryf.
Dylai fod gan unrhyw ymgeisydd brofiad a dealltwriaeth o agenda’r Rhwydwaith Canser a threfniadau sefydliadol i lwyddo i gefnogi a gweithredu busnes y Rhwydwaith. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos gallu profedig.
Mae ein trefniadau gwaith yn dal i olygu bod staff yn gweithio o gartref ond mae swyddfeydd Gweithrediaeth y GIG yn cynnwys Caerdydd, Baglan a Llandudno. Mae parodrwydd a gallu i deithio ar draws sefydliadau GIG Cymru yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Jones ([email protected])
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif ddyletswyddau'r Swyddog Cymorth Prosiect yw cefnogi prosiectau ac is-grwpiau penodol o fewn Rhwydwaith Canser Cymru yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol cyffredinol.
Bydd deiliad y swydd yn:
· Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol
· Cefnogi gwaith cynnal a chadw, rheoli a goruchwylio cynlluniau prosiect
· Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a rheoli dogfennau sy'n ofynnol
· Cymryd cyfrifoldeb am reoli meysydd gwaith penodol o fewn prosiectau penodol
· Cefnogi'r gwaith o reoli cyllidebau
· Cefnogi'r gwaith o gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
· Cynhyrchu adroddiadau ar gynnydd i’w defnyddio'n fewnol ac allanol
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm yn cefnogi Rhwydwaith Canser Cymru o fewn Cydweithfa Iechyd GIG Cymru er mwyn cyflawni ei rhaglen waith.
Cyfrifoldeb y Rhwydwaith yw cyflawni rhaglen waith cytunedig o fewn rhaglen ehangach y Gydweithfa. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Rheolwr y Rhaglen gyda'r ymarferoldeb gweinyddol, gwaith cynnal a chadw a throsolwg o ffrydiau penodol o'r rhaglen waith hon. Er bod y swydd hon yn rhan o'r Rhwydwaith Canser, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol yn y dyfodol, gyda chytundeb deiliad y swydd, i weithio ar draws y Gydweithfa er mwyn cefnogi rhwydweithiau neu raglenni gwaith eraill.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydd deiliad y swydd yn meddu ar NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfatebol perthnasol, yn ogystal â lefel uchel o gymhwysedd mewn rhifedd, a Saesneg ysgrifenedig a llafar.
- Dealltwriaeth dda o raglenni MS Office.
- Ymwybyddiaeth o'r polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â delio â data personol a sefydliadol cyfrinachol.
- Dealltwriaeth fanwl o swyddogaethau'r swyddfa ar gyfer y rhaglen/prosiect.
- Gwybodaeth ddigonol am systemau ffeilio/data gan gynnwys rheoli cofnodion.
Meini prawf dymunol
- Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd Uwch (ECDL) neu gyfwerth.
- Microsoft Project.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol mewn rôl weinyddol.
- Profiad blaenorol o weithio gyda systemau ariannol a/neu brynu nwyddau neu offer.
- Profiad blaenorol o ddelio â chwsmeriaid, cleientiaid a/neu aelodau o'r cyhoedd.
- Profiad o gynorthwyo gwaith prosiect.
- Profiad o gyfathrebu ar bob lefel.
- Profiad o ymdrin â data sy'n gyfrinachol ac yn sensitif a gwaith cynnal a chadw a storio cofnodion yn briodol.
- Profiad o waith trawsgrifio a chymryd cofnodion.
- Profiad digonol o raglenni Microsoft Office.
Meini prawf dymunol
- Profiad goruchwyliol.
- Gweithio mewn amgylchedd GIG.
- Gweithio mewn amgylchedd ymchwil neu'r trydydd sector.
- Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (Managing Successful Programmes) neu PRINCE2 lefel sylfaen.
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a rheoli llwyth gwaith eich hun.
- Sgiliau bysellfwrdd datblygedig.
- Sgiliau cyfathrebu da.
- Sgiliau trefnu da.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
- Y gallu i weithio o fewn tîm.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
- Rheoli amser yn dda.
- Parchu cyfrinachedd.
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau.
- Ymagwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Datblygiad proffesiynol parhaus.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ann Hosken
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector