Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhwydwaith Canser Cymru
Gradd
Consultant
Contract
3 blynedd (Cyfnod penodol)
Oriau
Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos (0.2 sesiwn glinigol yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
028-MD020-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Afon
Tref
Gwaelod-y-Garth, Caerdydd
Cyflog
£91,722 - £119,079 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Arweinydd Clinigol Genomeg

Consultant

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi i Arweinydd Clinigol Genomeg ymuno â Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser, sy'n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Rhwydwaith Canser Cymru yn dod â gweithwyr proffesiynol meddygol, clinigol a phrosiect ynghyd mewn tîm cefnogol a deinamig. Mae ein rhaglenni yn cael eu hysgogi gan wybodaeth glinigol, profiad cleifion, ymchwil a thrwy gofleidio technolegau a datblygiadau newydd ym maes gofal canser.

Rydym yn chwilio am Arweinydd Clinigol Genomeg i ymuno â’r tîm presennol, i weithio ar y cyd, gan ddarparu gwybodaeth ac arweinyddiaeth arbenigol, gan gefnogi dull Cymru gyfan. Mae'r swydd hon yn cynnwys dwy sesiwn glinigol yr wythnos. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gweithio ar lefel ymgynghorydd, i ymgymryd â'r swydd heriol hon, a fydd yn darparu arweinyddiaeth glinigol, cyfeiriad strategol ac arbenigedd ar gyfer y Rhaglen Trin Canser. Bydd yn gweithredu fel adnodd a chynghorydd proffesiynol, i ddarparu cymorth ac arweiniad ar bob mater sy’n ymwneud â genomeg canser, a bydd yn arwain ar ystod o brosiectau ac amcanion i ddatblygu a gwella canllawiau a phrosesau cenedlaethol, profiad y claf, a chryfhau cydweithio â chydweithwyr sy’n gweithio ledled Cymru.

Bydd angen i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ddangos sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol ac ysgogol cryf gan fod cyflawni'r gwaith hwn yng Nghymru yn llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio a'r gallu i ddatblygu perthnasoedd cryf. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn:

·         Meddu ar sgiliau arweinyddiaeth glinigol cryf, gan roi cyfeiriad a throsolwg i'r rhwydwaith a meithrin diwylliant o ymgysylltu clinigol.

·         Meithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda JCC, AWMGS, Llywodraeth Cymru, rhaglenni delweddu cenedlaethol, rhaglenni patholeg cenedlaethol, grwpiau safleoedd canser a staff clinigol Byrddau / Ymddiriedolaethau Iechyd sy'n gweithio mewn gwasanaethau genetig sy’n benodol i oncoleg yng Nghymru.

·         Mynd ati i weithio gyda chydweithwyr clinigol a chyrff cynrychioliadol ledled Cymru i hyrwyddo blaenoriaethau a rhaglen waith y Rhwydwaith Canser.

·         Sicrhau bod ymgysylltiad clinigol priodol o fewn y maes portffolio drwy hyrwyddo manteision ymgysylltu clinigol gan gydweithwyr wrth ail-ddylunio a thrawsnewid gwasanaethau.

·         Cymryd rhan weithredol mewn cyfleoedd cydweithredol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i gasglu gwybodaeth a mewnwelediad i lywio arloesedd i ategu blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

·         Cyfrannu at weithdai a digwyddiadau cenedlaethol gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, a’u harwain, lle y bo’n bosibl, i gynyddu ymgysylltiad a hyrwyddo rhwydweithio.

·         Meithrin perthnasoedd gwaith rhagorol gyda chlinigwyr, timau rheoli byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, academyddion, darpar gomisiynwyr a sefydliadau trydydd sector.

 

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 3 BLYNYDDOEDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

 

 Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) neu weithio ar lefel ymgynghorydd.
  • Gwybodaeth am gyd-destun Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
  • Gwybodaeth am yr agendâu cenedlaethol ar gyfer polisi canser.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol.
Meini prawf dymunol
  • Cyhoeddiadau academaidd/ Cyflwyniadau.
  • Dangos cyfranogiad mewn datblygu gallu ar gyfer gwella ac arweinyddiaeth systemau, a brwdfrydedd dros hyn.
  • Cymhwyster / hyfforddiant arbenigol mewn oncoleg genomeg.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Wrthi’n gweithio fel Ymgynghorydd ar hyn o bryd, gyda diddordeb arbenigol mewn oncoleg genomeg.
  • Profiad o ddarparu gofal o fewn y llwybr canser.
  • Profiad ffurfiol blaenorol o arweinyddiaeth glinigol o fewn sefydliad GIG.
  • Profiad o arwain, rheoli a gweithredu newid.
  • Profiad o archwilio, ymchwil a chyfraniad at gyflawni newid llwybr sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Profiad o weithio gydag uwch reolwyr i effeithio ar ddatblygiad strategaeth.
  • Profiad o reoli a chadeirio grwpiau mawr o reolwyr a chlinigwyr.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i arwain a chyflawni newidiadau clinigol sylweddol.
  • Profiad o weithio gydag uwch reolwyr i sicrhau dull strategol o weithredu newid.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol e.e. GIG Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn bresennol mewn cynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol.
  • Diddordeb mewn rhoi ymchwil ar waith.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am gyd-destun polisi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
  • Gwybodaeth am bolisi Canser Cenedlaethol, a'r cynllun gwaith rhwydwaith.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a mewnwelediad clir i'r heriau presennol sy'n wynebu GIG Cymru ac yn arbennig ym maes oncoleg genomeg.
  • Tystiolaeth o ymchwil gofal iechyd neu ddatblygiadau gwasanaeth arloesol.

Sgiliau a Doniau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol ar sail unigol ac aml-broffesiynol.
  • Galluoedd arwain profedig.
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
  • Hanes profedig o weithio mewn tîm a chyflawni darnau allweddol o waith.
  • Y gallu profedig i wrando, grymuso, arwain trwy esiampl ac arwain trwy newid, gan weithio fel rhan o dîm aml-broffesiynol.
  • Yn hunanfyfyriol, yn hunanymwybodol ac yn barod i dderbyn adborth.
  • Yn gallu holi'n adeiladol a datrys problemau.
  • Yn gallu gweithio dan bwysau ac aros yn broffesiynol a safonau ymddygiad disgwyliedig er gwaethaf amgylchiadau herio.
  • Yn parchu cyfrinachedd.
  • Agwedd hyblyg i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth.
  • Barn a sgiliau penderfynu cadarn.
  • Yr wybodaeth a’r gallu i drafod, dylanwadu, cyfarwyddo, ac os oes angen herio uwch-gymheiriaid neu reolwyr yn y gymuned ganser a phartneriaid yn yr economi iechyd er mwyn cyflawni newid.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth ac arbenigedd arbenigol ychwanegol e.e. sgiliau cyflwyno a hwyluso uwch.
  • TG/Gwybodeg.
  • Yn gallu siarad Cymraeg/yn fodlon dysgu.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid i bob gweithiwr gyflawni ei ddyletswyddau gan gydymffurfio’n llwyr â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg ei sefydliad a manteisio ar bob cyfle i hybu’r Gymraeg wrth ymwneud â’r cyhoedd.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol ac yn addas i ymarfer yn ddiogel ac yn ymwybodol o'i anghenion hyfforddi ei hun.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ann Hosken
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am ragor o fanylion, cysylltwch â: 
[email protected] – Sian Morgan, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
[email protected] – Athro Tom Crosby, Chyfarwyddwr Clinigol Canser
Cenedlaethol dros Gymr

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg