Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhaglen Patholeg Genedlaethol
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener, oriau yn unol â pholisi gweithio hyblyg)
Cyfeirnod y swydd
028-AC287-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llawr 1af Tŷ Afon
Tref
Gwaelod-y-Garth
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Swyddog Cymorth Prosiectau

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Swyddog Cymorth Prosiectau ymuno â'r Rhaglen Patholeg Genedlaethol. Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi cyflawni camau gweithredu allweddol o'r Datganiad o Fwriad Patholeg (2019). Mae'r Rhaglen waith hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg yng Nghymru 2023 i 2025.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gyfrifol am roi cymorth prosiect a chymorth gweinyddol, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, cymryd cofnodion ar gyfer cyfarfodydd lefel bwrdd, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y gwasanaeth Patholeg. Bydd cyfleoedd hefyd i ymgymryd â phrosiectau bach ar gyfer ffrydiau gwaith penodol a chynorthwyo aelodau eraill o dîm y Rhaglen.  Pan fo capasiti ar gael, gallwch hefyd roi cymorth i Raglenni diagnostig eraill megis y Rhaglen Endosgopi a'r Rhaglen Ddelweddu.

Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol, menter, a'r gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun tra'n cefnogi tîm ehangach y Rhaglen i sicrhau darpariaeth lwyddiannus.

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn River House, Cwrt Ynys Bridge, Gwaelod-y-Garth, Caerdydd, ond mae staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd.  Yn y dyfodol, efallai y bydd angen teithio ledled Cymru i fodloni gofynion y swydd yn llwyddiannus.

Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer, ac ar ran, Llywodraeth Cymru, o fewn GIG Cymru a gyda GIG Cymru, ac mae’n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Ein prif ddiben yw ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad at wasanaethau a phrofiad cleifion gwell a thecach, llai o amrywiaeth, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 

 

Rydyn ni’n cyflawni hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth gref a chyfeiriad strategol cadarn – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

 

I wybod mwy am weithio i ni a’r buddion yr ydym yn eu cynnig, ewch i  https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

 

Am arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/


I wybod mwy am weithio i ni a’r buddion yr ydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

Am arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel 3 NVQ mewn pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o gymhwyster neu brofiad blaenorol sylweddol cyfatebol.
  • Microsoft Office, cymwysterau teipio/prosesu geiriau neu brofiad cyfatebol.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddol, gan gynnwys systemau TG arbenigol a rheoli prosiectau, gwybodaeth hyfforddi, a gafwyd trwy hyfforddiant ffurfiol neu brofiad hyd at lefel diploma neu gyfwerth.
  • Profiad o redeg swyddfa rheoli rhaglen effeithiol.
Meini prawf dymunol
  • Ymrwymiad i/tystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad personol parhaus mewn maes cysylltiedig.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad gweinyddol/ysgrifenyddol sylweddol gan gynnwys cychwyn a chynnal systemau swyddfa.
  • Profiad o gefnogi prosiectau.
  • Profiad o amrywiaeth o becynnau TG (MS Teams) a'r gallu i'w defnyddio.
  • Profiad o gydlynu a chefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau.
  • Profiad o gymryd cofnodion.
  • Bod yn rhagweithiol.
  • Datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
  • Profiad o weithio gyda gwybodaeth gyfrinachol, sensitif a dadleuol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn lleoliad iechyd.
  • Profiad a dealltwriaeth o wybodaeth strategol a materion TG o fewn yr amgylchedd gofal iechyd.
  • Profiad a dealltwriaeth o Wella Gwasanaethau.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau llafar, ysgrifenedig a chyflwyno i gyfathrebu gwybodaeth sy'n amrywio o wybodaeth arferol i wybodaeth gymhleth, i gydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth ac ar ran tîm y prosiect.
  • Y gallu i arwain trwy esiampl ac ysgogi timau.
  • Cymwys yn y defnydd o gymwysiadau MS Office ac MSProject.

Priodoleddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, addysg a hyfforddiant.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol.
  • Unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant.
  • Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
  • Y gallu i weithio o bell (gweithio o gartref).
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leanne Barker
Teitl y swydd
Programme Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jane Long

Rheolwr Prosiect

[email protected]

(Ddydd Llun i ddydd Iau)

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg