Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhwydweithiau a Chynllunio
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol: 37.5 awr yr wythnos
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC292-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llawr 1af Tŷ Afon
Tref
Gwaelod- y- Garth, Caerdydd
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

CG i'r Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwyr

Gradd 5

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Cymorth Gweithredol yng Nghyfarwyddiaeth Rhwydweithiau a Chynllunio Gweithrediaeth y GIG.

Rydym yn awyddus i recriwtio dau Gynorthwyydd Personol Gweithredol i ddarparu cymorth penodol i:

·       Rôl 1 - Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol a Dirprwy Gyfarwyddwr Clinigol

·       Rôl 2 - Dirprwy Rwydweithiau a Dirprwy Cynllunio

Bydd y rhain yn rolau amrywiol sy'n gofyn am gyfathrebwyr hyderus sydd â sgiliau trefnu rhagorol ac sy’n drylwyr. 

Disgwylir i ddeiliaid y swydd weithio'n ymreolus, blaenoriaethu gwaith gan ddefnyddio barn a blaengarwch, gan gydnabod natur proffil uchel gwaith grŵp y Cyfarwyddwyr. Yn ogystal, byddwch yn sicrhau bod yr holl waith o fewn y Tîm Cymorth Gweithredol o'r safon uchaf.

Mae'r cyfrifoldebau'n amrywiol ac yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) reoli dyddiaduron lluosog, trefnu a blaenoriaethu e-byst, trefnu cyfarfodydd, cynhyrchu cofnodion a chydlynu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau yn ogystal â pharatoi gohebiaeth, adroddiadau a chyflwyniadau. Bydd gennych sgiliau trefnu a rhyngbersonol rhagorol a byddwch yn hollol fedrus wrth ddefnyddio Microsoft Office. Weithiau bydd angen dull o weithredu hyblyg arnoch i fodloni â therfynau amser tynn ac amrywiol a byddwch yn berson sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm.

Bydd deiliaid y swydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth trawsgyflenwi i gyd-aelodau'r tîm ar adegau o absenoldeb salwch a gwyliau blynyddol. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

·       Gweithio'n ymreolus gan gynnwys yn absenoldeb y Cyfarwyddwyr, blaenoriaethu llwyth gwaith i sicrhau bod yr holl faterion brys yn cael eu gweithredu, fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn cynnwys ymatebion i uwch staff, gan gynnwys Aelodau'r Bwrdd a Llywodraeth Cymru.

·       Trefnu a chynllunio dyddiadur ac ymrwymiadau Cyfarwyddwyr, trefnu cyfarfodydd ffurfiol a chymhleth, gan gynnwys yr holl drefniadau teithio a llety yn ôl yr angen.

·       Canfod a chasglu'r holl wybodaeth berthnasol er mwyn blaenoriaethu’r fasged i mewn a gwneud penderfyniadau ar ran y Cyfarwyddwyr ynghylch gwrthdaro o ran y dyddiadur a gwahanol apwyntiadau, yn seiliedig ar wybodaeth gadarn o'r blaenoriaethau a'r dyddiadau cau sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddiaeth.

·       Sicrhau yr ymdrinnir â'r post a dderbynnir neu ei ailgyfeirio'n briodol ac anfon eitemau sydd angen mewnbwn gan eraill na ellir ymdrin â nhw fel arall, gan nodi'n glir unrhyw derfynau amser neu gyfarwyddiadau yn  ôl yr angen i hwyluso datrysiad a blaenoriaethu cyflym. Dilyn a monitro materion sy'n cael eu dirprwyo ar gyfer eu gweithredu ar ran y Cyfarwyddwr. 

·       Trefnu a chynllunio cyfarfodydd a digwyddiadau fel y cyfarwyddir, gan gynnwys trefnu siaradwyr a darparu cymorth o ansawdd uchel i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a'u cyflwyno'n effeithiol.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd y Cynorthwyydd Personol Gweithredol yn darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, effeithlon, trefnus a chyfrinachol i'r Cyfarwyddwr a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwyr ar draws pob maes cyfrifoldeb. Bydd hyn yn cynnwys rheoli cronfeydd data a defnydd lefel uwch o becynnau TG fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth gweinyddol (trefnu cyfarfodydd allweddol a rhywfaint o waith rheoli dyddiaduron) i aelodau Uwch Dîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth.

 

Yn adrodd i'r Rheolwr Cymorth Gweithredol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyfarfodydd lefel Gweithredol, gan weinyddu cyfarfodydd pwyllgor perthnasol ac is-bwyllgorau eraill y Bwrdd, gan gynnwys casglu, olrhain a lledaenu papurau, cymryd cofnodion ffurfiol a rheoli gweithredoedd.

 

Disgwylir i ddeiliad y swydd gynnal cyfrinachedd llwyr bob amser a chynrychioli'r Gyfarwyddiaeth mewn modd proffesiynol, effeithlon a chwrtais a bydd gofyn iddo arfer barn i wneud penderfyniadau cadarn gan ddefnyddio blaengarwch a lefelau o awdurdod y cytunwyd arnynt gyda'r Cyfarwyddwr.

 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â'r Cynorthwywyr Personol Gweithredol eraill ac yn darparu cymorth pan fo angen.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysgwyd i lefel gradd, neu gymhwyster proffesiynol neu alwedigaethol (er enghraifft NVQ) neu lefel gyfatebol o brofiad o weithio ar lefel debyg mewn maes megis uwch weinyddiaeth neu reoli busnes
  • Cymhwyster RSA III mewn teipio neu gymhwyster cyfatebol
  • Gwybodaeth uwch o gymwysiadau meddalwedd Microsoft (Outlook, Word, Excel a PowerPoint ac ati) a MS teams
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • ECDL Uwch
  • Gwybodaeth am Systemau Ariannol e.e. monitro rheoli cyllidebau, prosesu anfonebau a gwaith caffael.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad gwaith sylweddol mewn amgylchedd prysur ac arbenigedd ar draws yr ystod lawn o systemau swyddfa a gweithdrefnau gweinyddol.
  • Profiad blaenorol o weithio gydag uwch arweinyddiaeth neu rolau cyfatebol.
  • Profiad o weithredu a chynnal prosesau a gweithdrefnau mewnol.
  • Profiad o ymdrin â data cyfrinachol a sensitif a chynnal a storio cofnodion yn briodol.
  • Profiad o gynhyrchu adroddiadau gwybodaeth rheoli.
  • Profiad o gymryd ac ysgrifennu cofnodion ffurfiol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o fonitro cyllidebau a phrosesau cynllunio busnes.
  • Profiad mewn rheoli prosiectau.
  • Dealltwriaeth o'r GIG a'i sefydliadau partner.

Priodoleddau a Gwerthoedd Personol

Meini prawf hanfodol
  • Ein gwerthoedd sefydliadol yw gweithio gydag ymddiriedaeth a pharch i wneud gwahaniaeth.
  • Tystiolaeth o fyw ein gwerthoedd a chydweddu’n ddiwylliannol.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol

Dawn a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a chyflwyno ysgrifenedig a llafar.
  • Y gallu i weithio'n ymreolus ond yn gallu adnabod pryd mae'n briodol gofyn am gyngor.
  • Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a rheoli gofynion lluosog sy’n cystadlu â’i gilydd.
  • Y gallu i ymdrin ag ymholiadau/cwynion cymhleth a heriol drwy ymchwilio'n effeithiol i'r materion a chynnig atebion.
  • Defnydd uwch o TG a thechnoleg.
  • Yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar.
  • Y gallu i addasu i ofynion newidiol
  • Galluoedd cynllunio a threfnu rhagorol, yn eithriadol o drylwyr.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Teri Harvey
Teitl y swydd
Executive Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg