Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Tîm Cynllunio Brys
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio cartref/ swyddfa hybrid)
Cyfeirnod y swydd
028-AC289-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llawr 1af Tŷ Afon
Tref
Gwaelod- y- Garth, Caerdydd
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

CP/Uwch Swyddog Gweinyddol i'r Tîm Cynllunio Argyfwng

Band 4

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn rôl gefnogol allweddol i'r Tîm Cynllunio Brys sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Rhwydweithiau a Chynllunio Gweithrediaeth y GIG. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu cymorth cynhwysfawr, cyfrinachol, gweinyddol, clerigol a busnes i'r Tîm Cynllunio Brys.

Oherwydd natur rhai o'r dogfennau y bydd gan ddeiliad y swydd fynediad iddynt bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i fynd drwy’r broses glirio i lefel Gwiriad Diogelwch (SC).  Bydd manylion pellach yn cael eu trafod yn y cyfweliad.

Er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, bydd gennych brofiad blaenorol o'r canlynol:

  • Darparu cefnogaeth cynorthwyydd personol neu rôl gyfwerth.
  • Rheoli dyddiadur a chymryd cofnodion yn fedrus, sy'n rhan allweddol o'r rôl.
  • Y gallu i arddangos trylwyredd. 
  • Sgiliau personol a rhyngbersonol rhagorol (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a’r gallu i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ledled Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth trawsgyflenwi i gyd-aelodau'r tîm ar adegau o absenoldeb salwch a gwyliau blynyddol. Byddant yn darparu cymorth a chyngor priodol drwy rannu gwybodaeth â staff gweinyddol eraill ac uwch reolwyr yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio yn y tîm cynllunio Argyfyngau, gan helpu i ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso prosiectau. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol, cymorth clercaidd a chymorth busnes cynhwysfawr a chyfrinachol fel rhan o adnodd gweinyddol Rhwydweithiau a Chynllunio.

Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd gyfathrebu a chydgysylltu â chyfarwyddiaethau, is-adrannau a rhanddeiliaid a pharatoi gwaith o fewn terfynau amser gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau sefydliadol. 

Mae hon yn rôl gymorth allweddol o ran sicrhau bod y tîm yn rhedeg yn effeithiol, gan gyfrannu at y broses o gydgysylltu a dirprwyo gwaith gan sicrhau cysondeb â'r cynllun gwaith y cytunwyd arno. 

Bydd hyn yn cynnwys cefnogi ac arwain wrth gyflwyno hyfforddiant ac ymarferion ym mhob rhan o GIG Cymru a gyda phartneriaid amlasiantaeth. 

Bydd deiliad y swydd yn datblygu gwybodaeth arbenigol er mwyn helpu i  cefnogi’r gwaith o gyflawni cynllun gwaith Cynllunio at Argyfwng Gweithredwyr y GIG.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

·=Rhoi cymorth gweinyddol cynhwysfawr i'r tîm Cynllunio Argyfwng gan sicrhau cyfathrebu rhwng cyfarwyddiaethau, is-adrannau a rhanddeiliaid

· Darparu gwybodaeth a chyngor mewn modd amserol

· Darparu gwasanaeth Cynllunio Argyfwng  effeithiol a phroffesiynol wrth gydgysylltu â chydweithwyr, partneriaid a'r cyhoedd gan ddefnyddio tact a diplomyddiaeth i annog gwaith effeithiol wrth ymdrin ag unrhyw anawsterau cyfathrebu

· Cyfathrebu ag amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol eraill yn lleol ac yn genedlaethol, gan gynghori ar ddulliau ac adnoddau sydd ar gael

· Rheoli gohebiaeth a negeseuon e-bost a dderbynnir, gan gynnwys rhai o natur gyfrinachol a sensitif, gan arfer barn annibynnol er mwyn rhoi camau gweithredu priodol ar waith

· Cydgysylltu a thrafod â staff a thimau prosiect er mwyn helpu i sicrhau bod prosiectau a swyddogaethau  busnes Cynllunio Argyfwng yn cael eu cynnal yn effeithlon 

· Prosesu geiriau i lefel RSA III, NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfatebol perthnasol, ynghyd â lefel uchel o rifedd a Saesneg ysgrifenedig a llafar

· Gwybodaeth ymarferol dda am weithdrefnau ysgrifenyddol, swyddfa a rheoli busnes, y mae rhai ohonynt yn anarferol, a phrofiad ohonynt

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar gymhwyster RSA III/NVQ Lefel 3 neu lefel gyfatebol o brofiad, ynghyd â lefel uchel o rifedd a Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Meini prawf dymunol
  • ECDL lefel uwch.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg mewn rôl weinyddol.
  • Profiad blaenorol o weithio gyda systemau ariannol a/neu brynu nwyddau neu gyfarpar.
  • Profiad blaenorol o ddelio â chwsmeriaid, cleientiaid a/neu aelodau o'r cyhoedd.
  • Profiad o waith cefnogi prosiectau.
  • Profiad o gyfathrebu ar bob lefel.
  • Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif a chynnal a storio cofnodion yn briodol.
  • Profiad o drawsgrifio a chymryd cofnodion.
  • Profiad ymarferol o ddefnyddio pecyn Microsoft Office.
Meini prawf dymunol
  • Monitro cyllidebau.
  • Profiad o oruchwylio Gweithio mewn amgylchedd y GIG.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm amlasiantaeth.
  • Profiad o weithio ym maes Cynllunio rhag Argyfyngau a Pharhad Busnes.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
  • Sgiliau bysellfwrdd uwch.
  • Sgiliau cyfathrebu da.
  • Sgiliau trefnu da.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu'r parodrwydd i ddysgu.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda am raglenni MS Office.
  • Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â delio â data cyfrinachol, boed yn bersonol neu'n sefydliadol.
  • Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau swyddfa.
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau ffeilio/data gan gynnwys rheoli cofnodion.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Gwybodaeth am brosesau Cynllunio rhag Argyfyngau a Pharhad Busnes.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio i amserlenni ac o dan bwysau.
  • Y gallu i weithio mewn tîm.
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
  • Parchu cyfrinachedd.
  • Parodrwydd i ddysgu a meithrin sgiliau.
  • Hyblyg.
  • Parodrwydd a'r gallu i deithio rhwng safleoedd.
Meini prawf dymunol
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Teri Harvey
Teitl y swydd
Executive Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg