Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Tîm Cymorth Gwasanaeth Warws
Gradd 2
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â ni fel Cynorthwyydd Tîm Cymorth Gwasanaeth Warws Band 2 yn Storfeydd GIG Rhanbarthol Dinbych.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu Cefnogaeth Gwasanaethau Cwsmer i gwsmeriaid a wasanaethir gan ein Warws Rhanbarthol yn Ninbych. Mae setiau o dasgau dyddiol i'w cyflawni megis cymorth clerigol a gweinyddol ac ymdrin â galwadau gan randdeiliaid dros y ffôn neu system Action Point mewn modd cwrtais ac effeithlon. Mewnbynnu data trwy system Oracle WMS, cysylltu â staff warws, prynu stoc yn effeithiol, codi archebion ac anghysondebau, cysylltu â chyflenwyr.
Y patrwm gwaith sefydlog fydd 37.5 awr yr wythnos.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur ynghyd â dealltwriaeth o Gymorth Warws a Chymorth Gweinyddol o fewn cylch gwaith Cyflenwi, Logisteg a Chludiant. Bod â’r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i fodloni amcanion PCGC. Bod yn chwaraewr tîm gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, a bydd gofyn iddo/iddi fabwysiadu agwedd hyblyg at unrhyw waith mae’n ymgymryd ag ef sy’n gofyn iddo/iddi weithio ar ei liwt ei hun, gan weithredu o fewn canllawiau gweithdrefnol hefyd. Cysylltu â staff mewnol ar bob lefel, rhanddeiliaid a chyflenwyr allanol. Wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur, a bod yn hyddysg mewn TG.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau/Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2
- 3 TGAU (Saesneg a Mathemateg o leiaf)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol ym maes gwasanaeth cwsmeriaid / amgylchedd prynu
- Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am becynnau Microsoft
- Gwybodaeth ymarferol am systemau a gweithdrefnau o ansawdd
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio o fewn terfynau amser.
- Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun pan nad yw yn y lleoliad gwaith
- Sgiliau rhagorol wrth siarad ar y ffôn
Meini prawf dymunol
- Yn gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
- Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rowena Thomas
- Teitl y swydd
- Regional Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector