Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Cymorth Busnes/Gweinyddwr Labordy
Band 5
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes i ymuno â'r tîm Microbioleg sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i arwain a chefnogi gwaith unigol ac mewn tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cymorth rheoli busnes, corfforaethol a gweithredu i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gall deiliad y swydd gydlynu a gweithredu cymorth trawsgyflenwi i swyddogaethau swyddfa yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, darparu a sicrhau darpariaeth cymorth a chyngor priodol i staff gweinyddol a chlercol, uwch reolwyr ac ymgynghorwyr.
Mae hon yn rôl allweddol i sicrhau cymorth effeithlon ac effeithiol i'r tîm sy'n cynnwys paratoi adroddiadau misol/chwarterol a chontractau, rhoi cymorth lefel uchel i brosiectau ac ymgymryd â thasgau penodol.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 4, gradd neu lefel gyfwerth o brofiad
Meini prawf dymunol
- ECDL Uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn rôl oruchwyliol/reoli
- Profiad o weithredu Microsoft Office Suite
- Profiad o lunio adroddiadau gwybodaeth reoli
- Profiad o reoli systemau cyllid e.e. monitro cyllidebau
- Profiad o weithredu polisïau a gweithdrefnau gweinyddol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gymryd cofnodion ffurfiol
- Gweithio mewn amgylchedd GIG
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio ar eich menter eich hun a hunanreoli llwyth gwaith
- Gallu trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau amlddisgyblaethol
- Sgiliau a gwybodaeth rheoli a chyfathrebu rhagorol
- Sgiliau TG/bysellfwrdd uwch
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg/parodrwydd i ddysgu
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau gweinyddol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rhian Lodwig
- Teitl y swydd
- Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227502
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector