Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Busnes Caffael
Gradd 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae Strategaeth Gaffael GIG Cymru yn gosod gweledigaeth a chyfeiriad Gwasanaethau Caffael drwy "Sicrhau gwerth i GIG Cymru drwy wasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl" drwy ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gefnogi'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau wrth iddynt gofalu am gleifion. Mae Adran Gaffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gyfrifol am gyflwyno proses Caffael i Dalu gyfannol i bob Bwrdd/Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r sefydliad cyffrous a deinamig hwn sydd wedi’i leoli yn Nhîm Caffael Rheng Flaen Hywel Dda.
Fel rhan o’r tîm rheng flaen, byddwch yn aelod allweddol o’r tîm sy’n gyfrifol am gyflawni Strategaeth Gaffael PCGC a byddwch yn cefnogi’r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei nodau strategol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa caffael mewn amgylchedd cefnogol, deinamig, amrywiol a heriol, gan weithio ar flaen y gad o ran darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n cynnig gwerth am arian i’r GIG a thrwy hynny’n cefnogi llesiant a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Nod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw galluogi’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r radd flaenaf, a hynny trwy ganolbwyntio ar y cwsmer, cydweithredu ac arloesi.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n arddel ein gwerthoedd:
* Gwrando a dysgu
* Gweithio gyda’n gilydd
* Cymryd cyfrifoldeb
* Arloesi
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwys hyd at Lefel 4 (Diploma) CIPS neu Wybodaeth / Profiad CIPS cyfatebol y gellir eu harddangos
- Yn gallu diffinio'ch dealltwriaeth o’r canlynol: •Rheoli categori •Rheoli risg •Beth yw'r anghenion busnes ar draws y gwasanaethau caffael. • Cyflawni gwerth am arian. •Proses y gadwyn gyflenwi gyfan. •Dangosyddion perfformiad allweddol •E-gaffael, •Yr angen i gydymffurfio •Gofynion cyfreithiol contractau.
Meini prawf dymunol
- ILM Lefel 3, cymwysterau rheoli eraill neu’n gweithio tuag at gymhwyster rheoli.
- Gwybodaeth am brosesau / gweithdrefnau Caffael Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd.
Sgiliau a Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad pendant o gyflawni prosiectau caffael cymhleth: •Asesu angen busnes •Tystiolaeth o dendro •Ysgrifennu manyleb •Meini prawf gwerthuso •Adroddiadau dyfarnu contract •Rheoli contractau •Gweithredu contractau •Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
- Profiad o reoli prosiectau lluosog ar yr un pryd
- Yn gallu sbarduno ac arwain gwaith casglu data cynhwysfawr ar gynhyrchion a chyflenwyr.
Meini prawf dymunol
- Dangos profiad o gyfrannu at brosesau cynllunio busnes; cynorthwyo i ddatblygu cynllun contract a chynllun arbedion.
- Profiad o reoli / goruchwylio staff / pobl - os oes modd, profiad o reoli mewn amgylchedd caffael neu gyflenwi.
- Yn gallu deall amrywiaeth o wybodaeth gymhleth am gynnyrch categori sy’n berthnasol i gwsmeriaid GIG Cymru.
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn dda am feithrin perthnasoedd cynhyrchiol a’r gallu i gynnal perthnasoedd effeithiol â phartneriaid busnes.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gwrando a dysgu
- Gweithio gyda’n gilydd
- Cymryd cyfrifoldeb
- Arloesi
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian John
- Teitl y swydd
- Senior Procurement Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector