Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwybodeg Glinigol
- Gradd
- NHS AfC: Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC115-0724
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Caerdydd, Abertawe, Yr Wyddgrug
- Cyflog
- £71,473 - £82,355 pa
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Prif Swyddog Gwybodaeth Proffesiynau Perthynol i Iechyd (IGDC)
NHS AfC: Band 8c
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n uwch arweinydd yn y Proffesiynau Perthynol i Iechyd gyda phrofiad gwybodeg glinigol?
Mae’r cyfle unigryw hwn yn apwyntiad Iechyd a Gofal Digidol Cymru i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi’r agenda ddigidol yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am uwch arweinydd angerddol a phrofiadol sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd (HCPC) i ymuno â’n Tîm Gwybodeg Glinigol. Fel ein Prif Swyddog Gwybodaeth Proffesiynau Perthynol i Iechyd (PSGPPI) ar gyfer IGDC, byddwch ar flaen y gad o ran cefnogi ein taith trawsnewid digidol yn y proffesiynau. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid, bydd ein PSGPPI yn creu cyfeiriad strategol a gweithrediad technoleg gwybodaeth, gan sicrhau bod arferion clinigol yn cael eu cefnogi gan y datrysiadau digidol mwyaf effeithiol ac arloesol.
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol mewn cydweithrediad â CCIOs, CNIOs a Gwybodegwyr Clinigol i sicrhau ymagwedd Cymru gyfan, gyda’n partneriaid, at drawsnewid digidol a chydlynu cynlluniau gwella digidol, a datblygu llwybrau gyrfa ar gyfer gwybodeg glinigol ledled Cymru.
Mae gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid yn hanfodol i sicrhau ein bod yn deall, yn gwrando ac yn ymateb i anghenion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, cyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, y byd academaidd, diwydiant a’r cyhoedd. Mae’r rôl hon yn gofyn am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig, sy’n gallu gweithio’n annibynnol mewn amgylchedd cymhleth, ac yn canolbwyntio’n fawr ar gyflawni canlyniadau.
Prif ddyletswydd y rôl hon yw gweithio ar y cyd â’n partneriaid i:
- Ddarparu uwch arweinyddiaeth i yrru’r strategaeth drosfwaol ar gyfer Digidol ar lefel genedlaethol, gan sicrhau llywodraethu effeithiol a chefnogi aliniad ar draws y system gyda rhanddeiliaid allweddol – Cymru gyfan.
- Gweithio ar y cyd â’r Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd i recriwtio i rolau digidol, cefnogi datblygiad y llwybrau gyrfa, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus unigolion, gweithio ar y cyd ag AaGIC ac IGDC.
- Darparu rheolaeth strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer cydlynu safoni gwybodaeth a data ledled Cymru.
- Darparu uwch arweinyddiaeth strategol i lywio cynllunio a gweithredu prosiectau a rhaglenni digidol cenedlaethol i gefnogi trawsnewid gofal clinigol.
- Darparu uwch arweinyddiaeth strategol i lywio cydweithredu aml-broffesiynol a chonsensws clinigol i drawsnewid llwybrau cleifion, ansawdd a diogelwch a chanlyniadau cleifion, a gwella profiadau cleifion a staff trwy ddulliau gweithio digidol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Prif gyfrifoldebau’r rôl yw:
- Cynllunio a dylunio gweithgareddau digidol i lywio’r gwaith o gynllunio a chyflawni’r CTCI mewn perthynas â thrawsnewid digidol ledled Cymru
- Gwella a monitro gweithgareddau gwella a thrawsnewid digidol
- Creu partneriaethau cydweithredol cryf ledled Cymru i gyflawni uchelgeisiau cyfunol
- Darparu arweiniad proffesiynol a strategol mewn cydweithrediad â’n partneriaid ledled Cymru
- Defnyddio arbenigedd clinigol a phrofiad uwch arweinyddiaeth strategol i gynghori ar ddyfeisio, datblygu a gweithredu systemau rhannu gwybodaeth priodol.
- Cyfrannu at ddatblygu strategaeth, gweithredu safonau a datblygu fframwaith gyrfa yn arbenigo mewn gwybodeg
- Arwain y gwaith o greu ac adolygu gweithrediad systemau gwybodaeth ar gyfer casglu, gwerthuso, a dehongli data cymhleth i lywio strategaethau tymor byr, tymor canolig a hir dymor.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Cymhwyster Clinigol Proffesiynol ac wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Addysg hyd at lefel gradd meistr neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster Arwain a Rheoli ôl-gofrestru gyda gwybodaeth broffesiynol ar draws nifer o feysydd – systemau gwybodaeth, cyllid, perfformiad, staffio.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau (e.e. PRINCE2)
- Profiad o roi systemau ansawdd ar waith sy’n darparu buddion i ddefnyddwyr terfynol wrth reoli systemau digidol clinigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio ar lefel uwch a gweithredu fel rhyngwyneb rhwng cydweithwyr gweithredol, clinigol, rheoli, gweithredu a digidol
- Profiad o weithio gyda rhaglenni cenedlaethol
- Profiad o gyflawni ac arwain newid sylweddol, gan gyflawni gwelliannau diriaethol a pharhaus ar draws gwasanaethau clinigol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stephanie Harris
- Teitl y swydd
- Associate Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector