Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arweinydd System Cyfiawnder Troseddol sy’n ystyriol o Drawma a ACE
Gradd 8a
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN MIS MAWRTH 2025 OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Bydd y rôl hon yn darparu uwch arweinyddiaeth strategol ar gyfer darparu’r Pecyn Cymorth Sefydliadol wedi’i lywio gan drawma ac ACE (TrACE) o fewn Canolfan Hyb ACE Cymru. Bydd ffocws penodol ar gefnogi Partneriaid Cyfiawnder Troseddol.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys gweithio hybrid a hyblyg, pensiwn y GIG gwych, gwyliau blynyddol rhagorol, cynlluniau beicio i'r gwaith a phrydlesu ceir, cynlluniau talebau gofal plant a llawer mwy.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol iachach i bobl Cymru. Os ydych chi'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru, yna mae hwn yn gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm hynod dalentog, traws-swyddogaethol, deinamig a chyfeillgar.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r swydd yn gofyn am brofiad o weithio gyda rhanddeiliaid/y cyhoedd a swyddogaethau ymgysylltu, gan gynnwys:
Bydd deiliad y swydd yn gweithio i Ddirprwy Arweinydd Hyb ACE Cymru i gyflawni’r amcanion a amlinellir uchod yn ogystal â’r blaenoriaethau strategol sefydliadol.
Bydd deiliad y swydd yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd gwaith da ar bob lefel ac yn mabwysiadu dull cydweithredol o weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y system Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, i ddatblygu’r flaenoriaeth genedlaethol hon a sicrhau bod Hyb ACE Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldebau allweddol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol, ragweithiol i fwrw ymlaen â phrosiectau a gweithgareddau sy'n ymwneud â materion hynod gymhleth sy'n rhychwantu sbectrwm eang o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth/arweiniad sefydliadol ar draws gwasanaethau, adrannau a sefydliadau. Mae sensitifrwydd, barn gadarn ac aeddfedrwydd yn hanfodol ar gyfer delio'n uniongyrchol â'n partneriaid ar faterion sensitif mewn perthynas â'u profiadau sefydliadol o adfyd a thrawma, neu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd deiliad y swydd yn arwain Hyb ACE Cymru wrth hyrwyddo egwyddorion Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen yn hyb rhithiwr y Fframwaith sy’n Ystyriol o Drawma, tîm ehangach TrACE a’r arweinydd Hyfforddiant, Strategaeth a Sgiliau yn Hyb ACE Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Addysg a Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd lefel gyntaf
- Tystiolaeth o ddysgu lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
Profiad Perthnasol
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio o fewn y system Cyfiawnder Troseddol ar lefel uwch
- Profiad o ddatblygu hyfforddiant
- Profiad o arwain a rheoli
- Profiad profedig o weithio gyda’r cyhoedd/defnyddwyr gwasanaeth
- Profiad o weithio aml-broffesiynol ar draws ffiniau sefydliadol
- Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu uwch
- Yn gallu arwain a dylanwadu ar newid
- Gwybodaeth am bolisïau GIG Cymru perthnasol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol e.e. Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg
Sgiliau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Hanes o gyflawni ar amser ac i'r gyllideb
- Yn hyddysg mewn TG
- Sgiliau trefnu a thrafod
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar, cyflwyniadol ac ysgrifenedig datblygedig iawn gyda sylw i fanylion
- Yn gallu datblygu a chyflwyno deunyddiau addysgol
- Yn gallu ysgogi eich hun ac eraill
- Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Agwedd hyblyg at weithio
- Yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda staff a rhanddeiliaid allanol
Galluoedd Personol
Meini prawf hanfodol
- Diplomyddol, pwyllog a gwrthrychol
- Sgiliau dylanwadu
- Pendant, hyderus, hawdd mynd ato ac yn gallu gweithredu mewn modd proffesiynol
- Cydnabod cyfyngiadau ar alluoedd
- Yn dangos brwdfrydedd
- Yn gallu teithio ledled Cymru
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Chwaraewr tîm gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu tasgau lluosog
Ymdrech
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu ymdrin â sefyllfaoedd emosiynol cymhleth ac anodd
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Natalie Blakebrough
- Teitl y swydd
- ACE Hub Wales Deputy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920227744
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector