Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uwch Nyrs Weithredol
Gradd
Gradd 7/Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-NMR150-0125-A
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Canser Felindre
Tref
Caerdydd
Cyflog
£46,840 - £61,412 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Uwch Ymarferydd Clinigol SACT

Gradd 7/Gradd 8a

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

ae’n bleser gan Ganolfan Ganser Felindre gyhoeddi eu bod nhw’n dymuno recriwtio Uwch Ymarferydd Clinigol SACT i ymuno â'i thîm o Uwch Ymarferwyr Clinigol sy'n ehangu, a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar asesu cleifion cyn iddynt gael triniaeth Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT).

 

Rydym yn chwilio am rywun sydd yn gallu meddwl tua’r dyfodol   Rydym hefyd yn chwilio am Uwch Ymarferydd Clinigol cymwys sydd gyda phrofiad diweddar mewn rhagnodi a gweinyddu triniaethau SACT, gan gynnwys cemotherapi, imiwnotherapi, triniaethau wedi'u targedu, a meddyginiaethau cefnogol.

 

Ydych chi’n astudio gradd Meistr fel Uwch Ymarferydd Clinigol dan hyfforddiant?  Neu os oes gennych brofiad perthnasol, mae lle i chi yma gyda'r tîm ac rydym yn croesawu eich cais.  Gallwn gefnogi cyfle hyfforddi a datblygu, ar yr amod eich bod chi’n gallu ymgymryd â hanfodion asesiad clinigol uwch, rhesymu diagnostig, cynllunio gofal a rhagnodi.

 

Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon fel rôl Uwch Ymarferydd Clinigol band 7 dan Hyfforddiant, bydd cyfle i’r ymgeisydd iawn symud ymlaen i’r swydd uwch Ymarferydd Clinigol ar lefel 8a unwaith y bydd wedi cymhwyso’n llawn, ac wedi cwblhau proses gadarnhau Uwch Ymarferydd Clinigol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn llwyddiannus (gellid cymhwyso Atodiad 21). )

 

 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

 

Yn y rôl hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r timau safle-benodol presennol gan gynnwys Ymgynghorwyr, Cofrestryddion, Meddygon SAS a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, sy’n cynnwys  Ymarferwyr Nyrsio Uwch, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Nyrsys Clinigol Arbenigol (dim yn gynhwysfawr) i gefnogi a darparu llwybr triniaeth fwy syml, o'r cyfnod cyn asesu i weinyddu SACT.  Mae Canolfan Ganser Felindre yn dechrau ar gyfnod o drawsnewid ar draws y llwybr SACT, a bydd y rôl hon yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o wella a datblygu gwasanaethau SACT ar lefel strategol.

 

 

Bydd y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn cynnig cyfleuster GIG o’r radd flaenaf sy’n darparu gofal heb ei ail i gleifion canser ar draws de-ddwyrain Cymru, Bydd yn weithle ysbrydoledig i’n staff ymroddedig ffynnu, ac yn cefnogi ymchwil a chydweithredu mewn perthynas â chanser o fri rhyngwladol ar draws y rhanbarth. Gydag adnoddau ardderchog a chefnogaeth barhaus, rydym yn grymuso ein staff i ddarparu gofal rhagorol i gleifion. Mae ein clinigwyr a’n cydweithwyr yn cael eu hannog i weithio i gyrraedd top eu band, a gwneud eu gorau glas i sicrhau safonau uchel o ofal. 

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

 

Am ragor o wybodaeth neu ar gyfer ymweliad anffurfiol, cysylltwch â

 

Anna Burgess, Nyrs Arweiniol SACT [email protected],

 

Jodie Treble Nyrs Arwain Oncoleg Acíwt/ACP [email protected] neu

 

Viv Cooper (VC) – Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad y Claf a Gofal Integredig (ar gyfer eitem 0.0.1)

 

 

 

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Anna Burgess
Teitl y swydd
SACT Lead Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920615888
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am ragor o wybodaeth neu ar gyfer ymweliad anffurfiol, cysylltwch â

 

Anna Burgess, Nyrs Arweiniol SACT [email protected],

 

Jodie Treble Nyrs Arwain Oncoleg Acíwt/ACP [email protected] neu

 

Viv Cooper (VC) – Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad y Claf a Gofal Integredig (ar gyfer eitem 0.0.1)

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg