Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Prif Beiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau
Gradd 8b
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Reolwr Cymwysiadau deinamig a phrofiadol i ymuno â'n tîm yn IGDC. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain y gwaith o sefydlu, rheoli a gweithredu gwasanaethau o fewn maes cymhwysiad penodol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio strategol a goruchwylio tîm o uwch arbenigwyr cynnyrch, gweithwyr datblygu proffesiynol, a staff cymorth i sicrhau bod prosiectau a gwasanaethau'n cael eu darparu'n ddidrafferth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrifoldebau Allweddol
- Arwain a rheoli darpariaeth/perfformiad gwasanaethau IGDC mewn maes cymhwysiad penodol.
- Goruchwylio rheolaeth a datblygiad uwch arbenigwyr cynnyrch, timau datblygu, staff cymorth o fewn y maes cymhwysiad.
- Nodi a gweithredu gwelliannau i wasanaethau a chefnogi mentrau newid i wella darpariaeth gwasanaethau.
- Gweithredu fel galluogwr newid, gan ysgogi arloesedd a thrawsnewid mewn gwasanaethau gofal iechyd digidol.
- Cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i sicrhau integreiddio di-dor o gymwysiadau â systemau a mentrau ehangach y GIG.
Os ydych chi'n unigolyn uchel ei gymhelliant gydag angerdd am ysgogi newid ac arwain trawsnewid digidol o fewn y sector gofal iechyd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn maes proffesiynol cysylltiedig (neu gymhwyster/profiad cyfatebol).
- Profiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth fel Uwch Reolwr o fewn gwasanaethau datblygu meddalwedd a systemau gwybodaeth, gyda hanes o reoli a chyflawni prosiectau meddalwedd hynod gymhleth yn llwyddiannus.
- Profiad helaeth o arwain tîm o arbenigwyr, gan weithio gyda chronfeydd data perthynol ac offer cymwysiadau penodol
- Hyfedr mewn dulliau a thechnegau ar gyfer asesu a rheoli risg busnes gan gynnwys risg sy’n gysylltiedig â diogelwch
- Yn gyfarwydd â dulliau a thechnegau sy’n gysylltiedig â chynllunio a monitro cynnydd prosiectau.
- Yn gyfarwydd â defnyddio adnoddau’n effeithiol ac effeithlon (ond hefyd yn cynnwys ailasesu ac ailddyrannu mewn amgylchedd deinamig aml-brosiect) i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar Lefel 1 neu uwch mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stuart Davies
- Teitl y swydd
- Interim Head of Software Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector