Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi ac Eiriolaeth)
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd sydd â gweledigaeth ag angerdd am bolisi ac eiriolaeth. Ymunwch â ni yn y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle rydym yn chwyldroi iechyd y cyhoedd trwy bolisïau arloesol ac eiriolaeth bwerus. Rydym yn dîm deinamig sydd wedi ymrwymo i gael effaith wirioneddol i wella a diogelu iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Byddwch ar flaen y gad o ran llunio polisïau a strategaethau iechyd y cyhoedd, ysgogi newid deddfwriaethol a hyrwyddo tegwch iechyd. Bydd eich dirnadaeth yn dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol a bydd eich eiriolaeth yn grymuso cymunedau i gyflawni canlyniadau iechyd gwell.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Datblygu a gweithredu polisïau iechyd y cyhoedd blaengar.
· Eiriol dros newidiadau deddfwriaethol i wella iechyd y cyhoedd.
· Cydweithio â rhanddeiliaid i hyrwyddo tegwch iechyd.
· Arwain datblygiad eiriolaeth polisi strategol a chynlluniau gweithredu.
· Cynnal dadansoddiad i ddatblygu argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llunwyr Polisi yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Lefel meistr neu brofiad cyfatebol
- Gradd Uwch gydag elfen ymchwil gref
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o ddadansoddi polisi, deall cyd-destunau gwleidyddol a pholisi, a dod o hyd i atebion ee trwy ddatblygu cynigion polisi cadarn
- Profiad o gynnal ymchwil sy'n berthnasol i iechyd y cyhoedd neu bolisi
- Profiad o ddatblygu a rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid
- Profiad o ymgysylltu â'r llywodraeth a/neu sefydliadau rhanddeiliaid i ddylanwadu ar lunwyr polisi
- Profiad o arwain prosiectau neu raglenni
Gwybodaeth, Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau eiriolaeth a dylanwadu polisi trwy adeiladu perthnasoedd dylanwadol, gyda'r gallu i gyflwyno materion cymhleth mewn arddull berswadiol, hygyrch i ystod o gynulleidfaoedd ac mewn gwahanol leoliadau
- Gallu i gymhathu materion/meysydd polisi newydd yn gyflym, gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd polisi, a chychwyn a fframio agendâu polisi newydd
- Gwybodaeth am ystod o ddulliau ac agweddau ymchwil
- Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn effeithiol ac addasu i flaenoriaethau newidiol ac amgylcheddau hyblyg
- Sgiliau ysgrifennu rhagorol a sylw i fanylion
- Sgiliau rheoli prosiectau a/neu raglenni
- Gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol ac i wahanol gynulleidfaoedd
- Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gallu amlwg i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
- Gallu amlwg i weithio dan bwysau, cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun a chynllunio gwaith ymlaen llaw i gwrdd â therfynau amser
- Gallu amlwg i ysgogi eich hun ac eraill
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leah Silva
- Teitl y swydd
- Principal Public Health Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 2022 7744
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector