Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Gwella Iechyd
Band 5
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Trosolwg o’r swydd
Gwella Iechyd
Band 5 Agenda ar gyfer Newid (AFC)
37.5 awr yr wythnos Parhaol
Lleoliad i'w drafod
Mae Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain camau gweithredu ar lefel genedlaethol neu Gymru gyfan i wella iechyd y boblogaeth, atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau drwy fynd i’r afael ag ymddygiadau sy’n niweidio iechyd fel deiet gwael, ysmygu ac yfed uwchlaw’r canllawiau. Rydym hefyd yn arwain gwaith sy’n ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar ac i hybu llesiant meddyliol. Gwnawn hyn drwy weithio'n agos gyda'n partneriaid strategol yn y Llywodraeth, cyrff cenedlaethol eraill a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd a chydag ystod o bartneriaid megis ysgolion, gweithleoedd, grwpiau cymunedol, yn ogystal â llywodraeth leol a'r GIG.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig gyda sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol i gyfrannu at waith ar draws nifer o raglenni gwaith. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â thîm sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol, cydlynu'r gwaith o gyflwyno a monitro ein rhaglenni o ddydd i ddydd a chefnogi'r gwaith o reoli cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Os oes gennych gymhelliant uchel gyda chefndir amlwg mewn cydlynu a chyflawni prosiectau, sy'n rhannu ein gwerthoedd, rydym yn croesawu'ch cais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ac rydym yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Dylech naill ai ddal neu fod yn fodlon gweithio tuag at gofrestriad fel Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd gyda Chofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Swydd-ddisgrifiad manwl a phrif gyfrifoldebau
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person gynhwysfawr ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais” i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth sy'n ymwneud ag iechyd neu wyddor gymdeithasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu rôl cydlynu rhaglen neu brosiect
- Profiad o baratoi deunyddiau cyfathrebu ar gyfer prosiect neu raglen
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau trefnu rhagorol mewn amgylchedd aml-brosiect
- Y gallu i gasglu a choladu data o sawl ffynhonnell ansoddol a meintiol, gan farnu ar yr angen am ragor o wybodaeth
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Health Improvement Business Support Team
- Teitl y swydd
- Business Support
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:
Enw
Tîm Cymorth Busnes Gwella Iechyd
Teitl y Swydd
Cymorth Busnes
Cyfeiriad e-bost
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector