Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
NHS AfC: Band 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC293-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
ICC Chwarter 2 y Brifddinas
Tref
Caerdydd
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Partner Busnes Cyllid

NHS AfC: Band 8a

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous yn Adran Cyllid a Pherfformiad y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau a Chyllid. Mae ein tîm wedi ymrwymo i fyw gwerthoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn falch o'r gwaith a wnawn.

 

Os ydych chi'n frwdfrydig am ddyfodol ym myd cyllid a pherfformiad yna gallai'r rôl gyffrous hon fod yn addas i chi.  Byddem yn croesawu galwad i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych a gallwn drefnu i chi ymweld a chwrdd â'r tîm os byddai'n helpu gyda'ch penderfyniad ar wneud cais.

 

Y cyfle presennol sydd ar gael Partner Busnes Cyllid

 

Rydym yn ymdrechu i gyflawni gwaith i safon eithriadol o uchel a thynnu ar arferion gorau ac arloesedd.  Rydym yn ceisio creu diwylliant bywiog, cynhwysol ac iach lle mae ein tîm yn cael eu cefnogi i ddatblygu a ffynnu.  Rydym wedi ymrwymo i greu a meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, hyblyg a chynaliadwy.

 

Mae'r rôl hon yn cynnwys Gweithio Ystwyth ac mae’r swyddfa yn Rhif 2 Capital Quarter yng Nghaerdydd.  Efallai y bydd angen teithio i safleoedd eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru o bryd i’w gilydd hefyd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Partner Busnes Cyllid yn cefnogi'r Uwch Bartner Busnes Cyllid i sicrhau rheolaeth ariannol ragweithiol a rheolaeth ariannol ar adnoddau meysydd gwasanaeth ar bob lefel benderfynu a defnyddio’r adnoddau hyn yn effeithiol i gyflawni gwerth am arian.

 

Gan gefnogi Uwch Dîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth, mae deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio ariannol tymor byr a thymor hir, gan sicrhau bod nodau ac amcanion y gyfarwyddiaeth yn cael eu hategu gan adnoddau ariannol priodol.

 

Ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli sefyllfa ariannol ar gyfer y maes dan sylw, ymchwilio i a chynghori ar faterion hynod gymhleth a darparu adroddiadau Rheoli a Chorfforaethol, cyngor ariannol a chyngor cynllunio busnes.

 

Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sydd am ehangu eu sgiliau a'u gwybodaeth i ddatblygu gyrfa o fewn Cyllid ymhellach.  Rydym yn cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol yn weithredol a byddwn yn gweithio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus i gynhyrchu cynllun datblygiad personol. 

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i’r swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi'u hatodi yn y dogfennau ategol.

Manyleb y person

Cymwysterau Hanfodol

Meini prawf hanfodol
  • • Cymhwyster CCAB

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth mawr.
  • • Profiad o weithio gydag rheolwyr nad ydynt yn rheolwyr ariannol
  • • Profiad o reoli staff
  • • Darparu hyfforddiant ariannol i reolwyr nad ydynt yn rheolwyr ariannol
  • • Profiad ym maes rheoli cyfrifeg
  • • Cyfrannu at ddatblygu achosion busnes
Meini prawf dymunol
  • • Profiad o weithio yn y GIG.
  • • Profiad rheoli cyfrifeg o fewn y GIG

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • • Sgiliau rhyngbersonol cryf
  • • Sgiliau Dadansoddi a Rhifedd ardderchog
  • • Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys profiad o holl gymwysiadau Microsoft a systemau cyfrifyddu ariannol cyfrifiadurol
  • • Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
  • • Yn gallu dangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle, ynghyd â'r ymddygiadau sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon
  • • Agwedd drefnus at waith
  • • Yn gallu gweithio a gwneud penderfyniadau dan bwysau
Meini prawf dymunol
  • • Yn gyfarwydd â system ariannol ORACLE.
  • • Ymwybyddiaeth o faterion Cyllid y GIG
  • • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1-5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Jenkins
Teitl y swydd
Senior Finance Business Partner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg