Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Contractio
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC438-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnau
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Uwch Swyddog Contractau
Band 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Tîm Contractau Gofal Iechyd yn rheoli amrywiaeth o gontractau incwm a gwariant â darparwyr allanol a chomisiynwyr Gwasanaethau Gofal Iechyd. Oherwydd ailstrwythuro ac ehangu yn yr adran, mae gennym ni nifer o swyddi gwag yn y tîm ar hyn o bryd.
Os oes gennych chi gefndir ym meysydd cyllid a chontractau ac rydych chi'n drefnus iawn ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth i gleifion, gallwn gynnig cyfle i chi wella ac ehangu eich sgiliau presennol trwy weithio yn ein tîm dynamig.
I lwyddo, bydd angen i chi fod yn frwdfrydig ac yn rhagweithiol, yn gallu rhoi sylw i fanylion, ac yn meddu ar awydd i wella iechyd ein poblogaeth leol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n tîm bach ond sefydledig i reoli pob agwedd ariannol ar gontractau incwm a gwariant gofal iechyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn cryf ei gymhelliant a hyblyg, sydd â sgiliau cyfathrebu cryf a phrofiad o weithio gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynir yn allanol, o fewn y GIG yn ddelfrydol.
Mae'r gallu i weithio mewn amgylchedd cyflym sy'n newid yn rheolaidd yn hanfodol, ac mae sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i gydweithio a datblygu perthnasoedd effeithiol â chydweithwyr ar draws ystod o ffiniau, gan gynnwys clinigwyr a sefydliadau partner yn hanfodol hefyd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Uwch Reolwr Contractau i reoli portffolio o gontractau a gomisiynir ac a ddarperir yn allanol ar draws ystod o wasanaethau yn y gymuned ac mewn ysbytai, gan weithredu fel y rhyngwyneb rhwng arweinwyr gwasanaethau a darparwyr a gontractir yn allanol i sicrhau bod y gwaith o ddarparu a chomisiynu gwasanaethau yn cael ei arwain gan glinigwyr, gan gefnogi darpariaeth weithredol ac amcanion y Bwrdd Iechyd.
Yn achos gwasanaethau a gomisiynir a rhai a ddarperir yn allanol, bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gynorthwyo â'r gwaith o nodi a gweithredu trefniadau contractio effeithiol yn unol â Rheoliadau Caffael Cenedlaethol a rhai Llywodraeth Cymru, trwy waith tîm amlddisgyblaethol effeithiol, gan ddefnyddio ystod o sgiliau cyd-drafod a dull cydweithredol o gontractio. Hefyd, cynorthwyo i sicrhau y caiff gwasanaethau a gomisiynir eu rheoli'n effeithiol, trwy weithredu trefniadau rheoli perfformiad/contractau.
Mae'r perthnasoedd allweddol yn cynnwys Uwch Swyddogion Contractau a Thîm Incwm y Bwrdd Iechyd, Rheolwyr Gweithredol a Chlinigwyr, y Gwasanaeth Caffael, sefydliadau partner, a darparwyr a gomisiynir yn allanol.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol technegol ar lefel gradd neu brofiad cyfatebol i weithio ar y lefel hon mewn cyllid neu gontractau.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o newid gwasanaeth mewn amgylchedd cymhleth, gan reoli gwrthdaro'n briodol.
- Profiad o ymgysylltu a thrafod yn effeithiol gydag ystod eang o unigolion a sefydliadau.
- Profiad o weithio gyda'r farchnad Darparwyr Allanol/Comisiynwyr.
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli cyllideb
- Profiad o weithio mewn partneriaethau ffurfiol e.e. Awdurdodau Lleol/Cymdeithasau Masnach.
Addasrwydd a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rheoli amser
- Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu ardderchog ysgrifenedig ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau dylanwadu a thrafod gyda'r gallu i ddelio'n effeithiol gyda sefyllfaoedd hynod o heriol.
- Y gallu i gychwyn, datblygu a chynnal perthynas a rhwydweithiau gydag ystod eang o unigolion gan gynnwys y rhai mewn swyddi uchel.
- Y gallu i ddadansoddi, dehongli ac adrodd ar wybodaeth gymhleth.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau dylanwadu, trafod a chymell ardderchog.
- Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno ardderchog - y gallu i ddefnyddio ystod o arddulliau fel y bo'n briodol.
Gwethoedd
Meini prawf hanfodol
- Deall yr angen i gyflawni blaenoriaethau tymor byr a chyflawni amcanion tymor hir.
- Y gallu i weithio’n effeithiol mewn amgylchedd cymhleth sy'n newid o hyd.
- Y gallu i weithio dan bwysau ac yn unol ag amserlenni heriol.
- Y gallu i ymdrin â materion cyfrinachol mewn modd proffesiynol a sensitif.
Meini prawf dymunol
- Hyblygrwydd deallusol sy'n galluogi asesiad rhesymegol o sefyllfa a'r gallu i ddod i gasgliadau pragmataidd.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled gogledd Cymru â theithio ymhellach yn achlysurol yn ofynnol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracy Pope
- Teitl y swydd
- Head of Healthcare Contracting
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858736
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech mwy o wybodaeth cysylltwch a
Tracy Pope, Pennaeth Contractio Gofal Iechyd trwy ebost @ [email protected]
Sharon Torr, Uwch Reolwr Contractio trwy ebost @ [email protected]
Sarah-Jane Wynne, Uwch Reolwr Contractio trwy ebost @ [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector