Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Clerc Ward
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ymuno â'r tîm gweinyddol fel Clerc Ward yn Ysbyty Rhuthun.
Bydd y Clerc Ward yn rhoi cefnogaeth glercyddol effeithiol i'r Uned. Mae darpariaeth gwasanaeth clercyddol effeithiol yn hanfodol i sicrhau derbyn, rhyddhau a throsglwyddiad cyflym.
Mae’r gallu i siarad cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Oherwydd natur y dyletswyddau, disgwylir i’r Clerc Ward gadw cyfrinachedd llwyr a disgwylir iddi/iddo ymdrin â chleifion a pherthnasau yn gwrtais a doeth bob amser.
Mae'r Clerc Ward yn gyfrifol i'r Rheolwyr Ward o ran darparu gwasanaeth clercyddol effeithiol ar draws y wardiau.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Y gallu I arddangos Saesneg/Cymraeg a Mathemateg a lefel TGAU neu brofiad cywerth
- OCR/RSE lefel 1 Prosesu Geiriau neu brofiad cywerth
- Siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
- NVQ II Gweinyddiaeth/ gofal cwsmeriaid
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clercyddol/ swyddfa flaenorol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o’r GIG
- Yn defnyddio WPAS
- Oracle
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfrannu'n adeiladol at amgylchedd gweithio mewn tîm
- Gallu i ddefnyddio’ch synnwyr cyffredin ac eto’n deall yr angen i ofyn am gyngor gan uwch staff pan fo angen
- Gallu cyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif yn bersonol a thros y ffôn
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am gyfrinachedd cleifion
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithio'n effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd clinigol
- Dull hyblyg o ymdrin â gwaith
- Siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
- NVQ II Gweinyddiaeth/ gofal cwsmeriaid
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Maureen Roberts
- Teitl y swydd
- Site Administrator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856497
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector