Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Arbenigol y Safle
Gradd 7
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol am 8 mis oherwydd. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
O dan arweiniad y Rheolwr Arweiniol, bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli gwasanaethau llawfeddygol dynodedig a rheoli'r holl brosesau gweinyddol o ddydd i ddydd. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyflawni holl dargedau'r Fframwaith Gweithredu Blynyddol.
Dirprwyo ar gyfer Rheolwr Arweiniol yn ôl yr angen a rheoli materion staffio meddygol priodol ar ran y Cyfarwyddwr o fewn arbenigeddau dynodedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheolwr Arbenigedd y Safle
Mae cyfle i ymuno â thîm rheoli'r Gyfarwyddiaeth Llawfeddygol wedi codi dros gyfnod penodol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn uchelgeisiol a brwdfrydig iawn ddatblygu ei yrfa rheoli weithredol mewn Is-adran gefnogol a blaengar.
Gan weithio mewn tîm amlddisgyblaethol, byddwch yn cydweithio i ddatrys problemau a sicrhau bod systemau a phrosesau yn eu lle i ddarparu gwasanaeth effeithiol i gleifion.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus dystiolaeth o allu meithrin perthnasoedd gwaith rhagorol, yn gallu blaenoriaethu'n dawel ac yn hyderus i reoli galw cystadleuol a gyda'r sgiliau angenrheidiol i ddynodi risgiau a'u lleddfu wrth iddynt godi. Bydd yn gyfathrebwr effeithiol gyda dulliau i sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid yn yr Adran yn cael gwybod am ddatblygiadau ac yn cael eu cynnwys ynddynt. Bydd yn gallu dylanwadu ac ysgogi'n effeithiol a bydd ganddo ddealltwriaeth ragorol o'r gofynion sydd ei angen i gyflawni safonau perfformiad.
Bydd y rôl hon yn gyfle delfrydol i reolwr gweithredol profiadol i ehangu ei bortffolio neu i rywun sy'n edrych i ddatblygu ei brofiad o arwain mewn rôl weithredol ddeinamig. Bydd y swydd hefyd yn darparu amlygiad i waith yr Uwch Adran drwy gynhwysiad mewn rhaglenni gwaith y Gyfarwyddiaeth eang.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi'ch addysgu hyd at lefel gradd/diploma neu brofiad cyfwerth
- Addysg at lefel gradd meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli neu gymhwyster proffesiynol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn timau amiddisgyblaethol ac ar draws uwch adrannau ac adrannau.
- Profiad o ddatblygu cynlluniau gwasanaeth a cheisiadau cyfalaf sy'n adlewyrchu anghenion gwasanaeth
- Ymwybyddiaeth am yrwyr allanol ar gyfer newid
- Profiad o reoli cyllideb
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau a gweithredu newid i gwrdd a thargedau perfformiad
- Profiad o baratoi a chyflwyno gwybodaeth i staff clinigol i ddylanwadu, newid a hysbysu penderfyniadau
- Profiad o reoli timau, ymgymryd a recriwtio, rheoli perfformiad a salwch a materion dysgyblu
- Profiad o reoli staff gweinyddol a chlercyddol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda phartneriaethau lleol
- Profiad o arwain timau clinigol i gyflawni newid
- Profiad o feincnodi gwasanaethau a chyflwyno newid o ganlyniad
- Profiad of weithio mewn tim llawfeddygol
- Profiad o gyflawni targedau CIP
- Profiad o gymryd rhan mewn adolygiadau cynlluniau gwaith ymgynghorwyr
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda phartneriaid ar bob lefel o fewn sefydliad ac yn allanol
- Gallu dechrau/ymateb yn gadarnhaol i newid a'r gallu i ddysgu o brofiad
- Gallu dadansoddi gwybodaeth cymleth a'i ddehongli
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da
- Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith mewn amgylchedd gweithredol
- Gwybodaeth gyfredol am Microsoft Word ac Excel
- Gallu dangos sgiliau arwain
Meini prawf dymunol
- Sgiliau trafod a dylanwadu cadarn
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth gynhwysfawr am dargedau perfformiad a amlinellir yn y fframwaith Ansawdd Blynyddol
- Gwybodaeth am wasanaethau llawfeddygol a heriau syn wynebu'r uwch adran
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau gwybodaeth
Personnol
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i ddiwylliant o welliant parhaus
- Gallu creu perthynas waith effeithiol ac adeiladu timau gyda staff clinigol
- Gallu rheoli cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
- Hunangymhelliant
Meini prawf dymunol
- Gallu cyfathrebu'n Cymraeg
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Keiron Cranham
- Teitl y swydd
- Lead Manager - Surgery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 583910
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Gwybodaeth gyswllt ychwanegol:
Caroline Hogbin
Rheolwr Arweiniol - Llawfeddygaeth
01745 583910
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector