Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cynorthwyol - Gofal mewn Argyfwng/Gofal heb ei Drefnu (USC)
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i Ymarferydd Cynorthwyol medrus a brwdfrydig ymuno â'n Gwasanaeth Argyfwng a Gofal Heb ei Drefnu CAMHS Rhanbarthol sydd wedi'i leoli o fewn ein Hwb Canolog yn darparu cegnogaeth i ardaloedd, Dwyrain, Canol a Gorllewin Gogledd Cymru. Byddwch yn rhan o dîm deinamig sy’n darparu asesiadau, dilynol ac ymyriadau tymor byr ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n profi argyfwng Iechyd Meddwl, gan gynnwys eu teuluoedd a rhwydweithiau cymorth eraill, yn ogystal â darparu ymgynghoriad a hyfforddiant ar gyfer ein rhanddeiliaid allweddol .
Mae'r Gwasanaeth Argyfwng a Gofal Heb ei Drefnu yn y broses o ddatblygu ac ehangu o fewn ein cynnig gwasanaeth ac oriau gweithredu, gan gynnwys gyda'r hwyr, penwythnosau a gwyliau banc. Bydd gwaith clinigol yn digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys yr Adrannau Achosion Brys lleol, Wardiau Plant, a’r gymuned ar draws ranbarth Gogledd Cymru.
Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus ac arloesedd o fewn ein gwasanaeth ac yn cael eich cefnogi gyda datblygiad personol a phroffesiynol trwy oruchwyliaeth reolaidd ac Arfarnu Perfformiad ac Adolygu Datblygiad (PADR).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), bydd deilydd y swydd yn darparu gofal a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr y daw Gwasanaeth Gofal heb ei Drefnu CAMHS yn ymwybodol ohonynt yn sgil eu hanghenion iechyd meddwl.
Bydd y gwaith yn cynnwys elfennau ar asesu, cynorthwyo a gofalu am y sawl sy'n peri lefel uwch o risg iddynt hwy eu hunain neu i eraill, ac y bydd angen lefel uwch o arsylwi ar eu cyfer o bosibl (er enghraifft, goruchwyliaeth un ac un, os byddant mewn amgylchedd ysbyty), a darparu ymyriadau therapiwtig/rhaglenni gofal tymor byr yn y gymuned i blant a phobl ifanc, yn dilyn arweiniad gan uwch aelodau'r tîm.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ac arferion (dylai'r mwyafrif ohonynt fod yn weithdrefnau ac arferion nad ydynt yn rhai arferol) a gwybodaeth ddamcaniaethol ar lefel diploma neu brofiad cyfatebol.
- Gwybodaeth am weithdrefnau ac arferion perthnasol (yn ymwneud â Phlant a Phobl Ifanc) a ddatblygwyd trwy gyfrwng cymhwyster NVQ 3 ynghyd â hyfforddiant ychwanegol i brofiad sy'n cyfateb i lefel diploma (neu gymhwyster cyfwerth) trwy gyrsiau byr a phrofiad.
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 4 mewn pwnc perthnasol neu Gymhwyster ffurfiol ar lefel cyfwerth neu O leiaf un cymhwyster Safon Uwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Blwyddyn, o leiaf, yn gweithio'n uniongyrchol yn cefnogi plant mewn lleoliad Iechyd, Addysg neu Ofal Cymdeithasol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio â phlant neu bobl ifanc ag anawsterau datblygiadol neu anableddau dysgu sylweddol neu broblemau iechyd meddwl.
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu dilyn rhaglenni gofal ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser da.
- Cyfathrebu da â rhieni a phlant.
- Sgiliau rheoli ymddygiad da.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Deall datblygiad plant ac anghenion gwahanol grwpiau oedran.
RHINWEDDAU PERSONOL (Dangosol)
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyblyg ac arloesol wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
- Gallu cyflwyno agwedd ddigynnwrf ond cymdeithasol a chyfeillgar.
GOFYNION PERTHNASOL ERAILL (Nodwch)
Meini prawf hanfodol
- Parodwyd i deithio a gallu teithio i amrywiaeth o wahanol lefydd, yn nalgylch y swydd, er mwyn cyflawni'r dyletswyddau'n brydlon.
Meini prawf dymunol
- Gallu cyfathrebu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cindy Courtney
- Teitl y swydd
- Interim Head Of Nursing, Crisis And NWAS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 031 839
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector