Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Data Cardioleg
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rheoli a chydlynu pob cronfa ddata hanfodol cardioleg yn cynnwys BCIS, MINAP a Methiant y Galon. Bydd y rôl yn cynnwys gweithredu â barn annibynnol i ddadansoddi ffynonellau data sy'n gwrthdaro gan ddarparwyr mewnol ac allanol, i gwblhau cronfeydd data cardioleg ac archwiliadau cenedlaethol yn gywir. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cwblhau'n brydlon i fodloni amserlenni rhanbarthol a chenedlaethol, a darparu adroddiadau llafar ac ysgrifenedig ar ddata cardioleg cymhleth a sensitif a'u cyflwyno mewn tablau a graffiau mewn cyfarfodydd fel bo angen. Bydd deilydd y swydd hefyd yn defnyddio'r data hwn i helpu clinigwyr gyda phrosiectau ymchwil fel bo angen
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm Meddygaeth fel Cydlynydd Data Cardioleg.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am reoli a chydlynu'r holl gronfeydd data cardioleg hanfodol yn cynnwys BCIS, MINAP a Methiant y Galon. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithredu â barn annibynnol i ddadansoddi ffynonellau data sy'n gwrthdaro gan ddarparwyr mewnol ac allanol, i gwblhau cronfeydd data cardioleg ac archwiliadau cenedlaethol yn gywir. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cwblhau'n brydlon i fodloni amserlenni rhanbarthol a chenedlaethol, ac i ddarparu a chyflwyno adroddiadau ysgrifenedig a llafar ar ddata cardioleg cymhleth a sensitif ar ffurf tablau a graffiau mewn cyfarfodydd fel bo angen. Bydd deilydd y swydd yn defnyddio'r data hwn i helpu clinigwyr gyda phrosiectau ymchwil fel bo angen hefyd.
Bydd angen i’r unigolyn llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i ddelio â gwybodaeth gyfrinachol iawn am gleifion. Ynghyd â lefel uwch o sgiliau trefnu a gweinyddol.
Bydd deilydd y swydd yn darparu rôl gydlynol ar gyfer Ardal y Canol i sicrhau y cydymffurfir â chyflwyniadau cronfeydd data cenedlaethol a sicrhau bod ansawdd data'n cael ei ddilysu. Er mwyn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, bydd deilydd y swydd yn cydlynu canlyniadau a sicrhau bod cronfeydd data ac adroddiadau'n cael eu cwblhau'n gywir ac yn brydlon i fodloni amserlenni cenedlaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o'r Tîm Rheoli Meddygaeth ac yn gweithio yn Labordy Catheter Gogledd Cymru a bydd yn rheoli'r Timau Gweinyddol yn y Labordy Cath a'r Adrannau Ffisioleg Gardiaidd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'n Tîm Meddygol Cardioleg, Clinigwyr a Thimau gweinyddol
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn trac.
Manyleb y person
Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Wedi'ch addysgu at lefel gradd mewn cyfathrebu neu bwnc gwybodaeth perthnasol neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur, mewn rôl amrywiol lle'r oedd angen rheoli amserlenni a blaenoriaethau gwahanol yn ddyddiol
- Rheoli taenlenni a chronfeydd data yn effeithiol, yn cynnwys fformiwla, creu graffiau a chreu adroddiadau.
- Sgiliau cymryd cofnodion ffurfiol
- Tystiolaeth o’r gallu i gefnogi a rheoli prosiectau o'u dechrau i'w diwedd yn cynnwys monitro ac adrodd.
- Y gallu i greu adroddiadau a dogfennau clir a chryno
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster goruchwylio/ rheoli neu'n barod i weithio tuag ato/ profiad perthnasol
- Profiad o gasglu data a delio â nodiadau achos
- Gwybodaeth am lwybrau cleifion cardioleg
- Profiad o WPAS
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Defnydd hyfedr o Microsoft Office
- Sgiliau ar gyfer trin gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o feddalwedd
- Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sharon Bowman
- Teitl y swydd
- Cardiology Data Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 017454487407090
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector