Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- adran Gwasanaethau Dadebru
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR629-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Betsi Cadwaladr University Health Board
- Tref
- Gogledd
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Swyddog Adfywio
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Dadebru sy'n cwmpasu ardal gyfan BIPBC. Byddwch yn rhan o dîm sefydledig ac ymroddgar sy'n darparu Hyfforddiant Dadebru ar bob lefel a chymorth a chyngor clinigol, a byddwch yn helpu i lywio'r gwasanaeth er mwyn gwella'r dull o ddarparu gwasanaethau dadebru.
Mae dwy swydd wag ar gael ar hyn o bryd, un yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac ail yn Ysbyty Maelor Wrecsam, â chyfle i weithio i gynorthwyo'r gwasanaeth yn safleoedd y tri ysbyty acíwt i helpu i ennill profiad gwerthfawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at hyfforddi ar gyrsiau Cyngor Dadebru’r DU gan gynnwys ILS, PILS, GIC, ALS ymhlith eraill yn ogystal â chyfle newydd a chyffrous i gyfrannu at addysgu’r cwrs Trawma Ewropeaidd am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru.
Bydd archwiliadau i sicrhau diogelwch cleifion a gwaith Gwella Ansawdd hefyd yn rhan o’r rôl yn ogystal â bod yn aelod gweithgar o’r pwyllgor Dadebru ac yn rhan o’r timau ymateb brys yn safleoedd ysbytai acíwt y bwrdd iechyd. Bydd y swydd yn cyfuno gwaith clinigol ac addysgu rheolaidd yn yr ysbyty ac yn ein canolfannau cymunedol hefyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cynorthwyo Rheolwr y Tîm Dadebru i gynllunio Gwasanaethau Dadebru, eu trefnu, eu rhoi ar waith a'u cyflawni ar gyfer staff a chleifion.
Ar y cyd â Rheolwr y Tîm Dadebru, darparu Gwasanaethau Dadebru ac Efelychu Clinigol ar gyfer staff a chleifion (Gwasanaethau Acíwt a Chymunedol) yn yr ardal leol.
Bod yn uwch swyddog dadebru yn BIPBC.
Cydweithio a chydweithredu ag eraill i sicrhau y cyflawnir y safonau uchaf un o ran gofal i gleifion a'r gwasanaethau a ddarperir.
Cyflawni Polisïau Sefydliadol a Chenedlaethol a Chod Ymarfer, safonau proffesiynol a chanllawiau NMC/HPC.
Cynorthwyo Rheolwr y Tîm Dadebru i sicrhau bod cyllideb y Gwasanaethau Dadebru ac Efelychu Clinigol yn fantoledig (ble bo'n briodol), gan gynnal ansawdd a diogelwch hyfforddiant a chyflawni llywodraethu ariannol.
Cynorthwyo â’r broses o reoli pryderon/cwynion yn yr ardal leol ar gyfer Dadebru a Sgiliau Clinigol.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Hyfforddwr Uwch
Meini prawf dymunol
- Cofrestru proffesiynol
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Hyfforddwr Uwch
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Bellis Hollway
- Teitl y swydd
- Pan BCUHB Resuscitation Serivces Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000848650
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Happy to discuss the role further and arrange an informal visit.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector