Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gymunedol Anableddau Dysgu
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym ni wedi gwirioni bod diddordeb gennych chi mewn ymuno â’r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (MHLD). Gellir dod o hyd i fanylion yn ymwneud â’r rôl yn y Swydd Ddisgrifiad isod, hoffwn ddweud wrthych am y buddion anhygoel sydd gennym i’w cynnig. Pan fyddwch chi’n ymuno â’n Huwch Adran, gallwch chi gydbwyso gwaith a bywyd – gyda gweithio hyblyg, gweithio hybrid a swyddi ystwyth a digonedd o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rhai o’r buddion o ymuno â’r Uwch Adran;
· Lles, Gwaith a Ni – gwasanaeth sy’n rhoi cymorth i staff mewn amseroedd o angen. Pan ydym ni’n iach, gallwn ni gefnogi ein gilydd a’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn well. Sesiynau galw heibio, cwnsela a hyfforddi.
· Mae goruchwyliaeth yn cynnig y cyfle i staff gael adborth gan eu rheolwyr, trafod datblygiad a chanolbwyntio ar les.
· Gweithio hyblyg – mae gweithio llawn amser, gweithio oriau blynyddol, gweithio rhan-amser, gweithio o bell a gweithio hybrid yn eich galluogi chi i gyflawni cydbwysedd gwych rhwng gwaith a bywyd.
· Cyfleoedd datblygu drwy hyfforddiant mewnol a chyrsiau allanol gyda cholegau a phrifysgolion lleol.
· Gweithio yng Ngogledd Cymru, sydd â chymaint i’w gynnig, o bentrefi delfrydol, tai fforddiadwy o ansawdd uchel ac amgylcheddau naturiol heb eu difetha.
Hoffem ni eich croesawu chi i’n Huwch Adran, mae croeso i chi gysylltu â’r rheolwr recriwtio i drafod y rôl. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gofyn i ddeilydd y swydd weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol - gydag oedolion ag anabledd dysgu ac anghenion iechyd cymhleth cysylltiedig.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am wneud asesiad priodol o anghenion unigolion a chynnal ymyriadau gyda'r nod o wella ansawdd eu bywydau a chyflawni canlyniadau positif - bydd hyn yn cynnwys cynllunio sut i wneud hyn ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill yn y tîm.
Bydd deilydd y swydd yn darparu addysg, gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fyfyrwyr nyrsio a staff heb gymhwyso yn y tîm a darparu cefnogaeth i gleientiaid a'u teuluoedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelf rydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neuSaesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
b lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- RNLD
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn gwasanaethau anableddau dysgu
Meini prawf dymunol
- Profiad eang o weithio mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dangos dealltwriaeth dda o Anabledd Dysgu yn cynnwys Iechyd Meddwl, Fforensig, ymddygiad heriol ac Ymddygiad Heriol a PLD/Cymhleth. Iechyd- Yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol mewn lleoliad clinigol.
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol yn y gwasanaeth Anableddau Dysgu
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Gallu i gyfathrebu yn glir ac yn gywir
- Gallu addasu i amgylchiadau newydd a rhai sy’n newid
- Hunan frwdfrydig
- Gallu rheoli baich gwaith dynodedig heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Gallu blaenoriaethu gwaith a gweithio'n rhagweithiol.
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i welliannau parhaus o ran gofal cleifion
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Zoe Dolman
- Teitl y swydd
- Senior Specialist Behavioural Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858884
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector