Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweith cymorth Gofal Iechyd
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod Mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 36 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS420-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Yr Wyddgrug
- Tref
- Mold
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Cynorthwyydd Gofal Iechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CFYNOD MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
A Mae contract Cyfnod Penodol am 12 mis wedi codi ar gyfer swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gylchdroi o fewn adrannau ac i ddyletswydd nos yn ôl yr angen.
Mae'r tîm yn cynnwys staff nyrsio, HCSW, domestig a staff gweinyddol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu lefelau uchel o ofal cleifion. Mae'r tîm yn hyblyg yn eu dull o ymdrin â phob agwedd o ofal cleifion bob amser yn rhoi anghenion cleifion yn gyntaf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Helpu'r nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal yn seiliedig ar dystiolaeth i gleifion/cleientiaid gan weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, y claf, eu teulu a’u gofalwyr.
Darparu gofal cleifion fel sy'n cael ei gofnodi yn y cynllun gofal nyrsio. Ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau dan oruchwyliaeth nyrs cofrestredig am gyfnod y sifft.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
- Cynorthwyo'r nyrs gofrestredig i ddarparu gofal cyfannol o safon uchel i gleifion, gan sicrhau bod urddas cleifion a chydraddoldeb yn cael ei gynnal bob amser.
- Sicrhau bod yr egwyddorion a amlinellir yn yr Hanfodion Gofal yn cael eu hymgorffori mewn arfer bob dydd i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a chleientiaid.
- Cynorthwyo'r cleifion i gynnal eu hylendid a'u hymddangosiad personol.
- Cyflawni dyletswyddau o fewn y cynllun gofal wedi’u dirprwyo gan ymarferydd cymwys, dim ond os yw wedi derbyn hyfforddiant ac asesiad perthnasol.
- Paratoi wardiau/mannau clinigol ar gyfer derbyn cleifion drwy wneud yn siŵr bod y lle yn lân a thaclus - cynorthwyo i gadw'r safonau yn y man clinigol a hysbysu'r unigolyn priodol am unrhyw anrhefn/ llanast.
- Cynorthwyo i dderbyn cleifion newydd i’r ward trwy baratoi’r gwely, croesawu’r claf, ei helpu i’r gwely/man arall, a dangos cleifion o amgylch y ward.
- Llenwi cardiau bwydlenni cleifion gan gynnwys y claf yn y broses, a chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfarwyddiadau gan nyrs gymwysedig o ran diet.
- Cymryd rhan mewn amseroedd prydau bwyd wedi’u neilltuo i gleifion gan wneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu prydau/diodydd yn ddiogel ac mewn pryd, a sicrhau bod dwylo’r cleifion wedi’u golchi a bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer bwyta e.e. paratoi’r lle o gwmpas y gwely.
- Cymryd rhan wrth weini prydau i gleifion drwy dorri bwyd lle bo'n ofynnol, agor pecynnau, helpu cleifion i eistedd i fyny. Sicrhau bod statws maeth yn cael ei gynnal drwy gynorthwyo gyda bwydo/darparu diodydd a chynnal siart maeth (fel y cyfarwyddir). Hysbysu’r nyrs gofrestredig sydd â gofal cleifion am unrhyw glaf sy’n bwyta’n wael.
- Gweithredu fel hebryngwr i gleifion sy'n cael archwiliad neu driniaeth arall, a mynd gyda chlaf i'r adran pelydr-X neu adrannau eraill a chario dogfennau priodol a chyfleu negeseuon perthnasol dan gyfarwyddyd y nyrs gofrestredig.
- Gwarchod preifatrwydd a chynnal urddas cleifion nad oes ganddynt y gallu i ofalu amdanynt eu hunain tra byddwch yn eu helpu i ymolchi ac i ddefnyddio’r toiled.
- Perfformio arsylwadau cleifion; tymheredd, pwls a resbiradaeth yn dilyn cyfnod o hyfforddiant ac asesiad priodol.
- Cofnodi gwybodaeth sy'n ymwneud â gofal claf yn fanwl yn ôl cyfarwyddyd y nyrs â gofal.
- Cadw llygaid a hysbysu'r Nyrs Gofrestredig am unrhyw newid yng nghyflwr y claf.
- Darparu cefnogaeth seicolegol a chorfforol i gleifion/cleientiaid cyn, yn ystod ac yn dilyn gweithdrefnau neu archwiliadau clinigol.
- Cynorthwyo i symud a thrin cleifion, gan sicrhau eu bod yn cael eu symud yn ddiogel, yn unol â chanllawiau a pholisïau sefydliadol .
- Cynorthwyo'r nyrs gofrestredig i sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol â chleifion a gofalwyr/perthnasau.
- Adnabod sefyllfaoedd brys ac argyfyngau ac ymateb yn briodol iddynt.
- Mynegi gwybodaeth sylfaenol i gleifion a'u gofalwyr gan gynnal cyfrinachedd, urddas a pharch.
- Golchi cyrff a chefnogi teuluoedd a/neu ffrindiau.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau a/neu Wybodaeth
- Wedi cytuno i gwblhau fframwaith Anwytho Cymru Gyfan Lefel 2 mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu'r hyn sy'n cyfateb
Meini prawf dymunol
- Cwblhau holl fframwaith sefydlu Cymru
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sydd ei angen i gyflawni gofynion y swydd.
- Profiad o ddelio gyda'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol blaenorol
Dawn a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i barhau i fod yn dawel a phroffesiynol mewn amgylchiadau heriol
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Pam Woodward
- Teitl y swydd
- Ward Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850006
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector