Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Reolwr Cyllid (Contractau)
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Os ydych chi'n mwynhau her ac yn angerddol i helpu eraill fel rhan o dîm, yna efallai y bydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gyfle i chi.
Mae'r Tîm Contractau Gofal Iechyd yn rheoli amrywiaeth o gontractau incwm a gwariant â darparwyr allanol a chomisiynwyr Gwasanaethau Gofal Iechyd. Oherwydd ailstrwythuro ac ehangu yn yr adran, mae gennym ni nifer o swyddi gwag yn y tîm ar hyn o bryd.
Os oes gennych chi gefndir ym meysydd cyllid a chontractau ac rydych chi'n drefnus iawn ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth i gleifion, gallwn gynnig cyfle i chi wella ac ehangu eich sgiliau presennol trwy weithio yn ein tîm dynamig.
I lwyddo, bydd angen i chi fod yn frwdfrydig ac yn rhagweithiol, yn gallu rhoi sylw i fanylion, ac yn meddu ar awydd i wella iechyd ein poblogaeth leol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n tîm bach ond sefydledig i reoli pob agwedd ariannol ar gontractau incwm a gwariant gofal iechyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn cryf ei gymhelliant a hyblyg, sydd â sgiliau cyfathrebu cryf a phrofiad o weithio gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynir yn allanol, o fewn y GIG yn ddelfrydol.
Mae'r gallu i weithio mewn amgylchedd cyflym sy'n newid yn rheolaidd yn hanfodol, ac mae sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i gydweithio a datblygu perthnasoedd effeithiol â chydweithwyr ar draws ystod o ffiniau, gan gynnwys clinigwyr a sefydliadau partner yn hanfodol hefyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli portffolio o gontractau a Chytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG) ar draws y sefydliad cyfan gan gynnwys rheoli contractau comisiynwyr y GIG, cyfraniad at ddatblygu mecanweithiau prisio a gweithgarwch ar draws yr holl wasanaethau, hyrwyddo systemau ar gyfer cofnodi, monitro a llunio adroddiadau am berfformiad contractau a'r cyswllt a'r cyd-drafod â Darparwyr.
Bydd deilydd y swydd yn cydweithio â'r Prif Reolwr Cyllid a Rheolwyr Busnes yr Uwch Adran i sicrhau arweinyddiaeth glinigol ac uwch adrannol yn y broses gontractio a sicrhau bod y broses yn cyd-fynd yn eglur â meysydd cysylltiedig gan gynnwys gwasanaethau i gleifion, cyllid, gwybodaeth ac ansawdd. Byddant yn darparu gwybodaeth ac arweiniad arbenigol ar ystod eang o faterion ariannol, perfformiad ac ansawdd hynod gymhleth, gan gynnwys gwybodaeth ac arweiniad i feddygon ymgynghorol a chlinigwyr eraill a Chyfarwyddwyr yr Uwch Adran
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth ariannol mewn perthynas â chontractau allanol y Bwrdd Iechyd yn cael ei phrosesu yn unol â pholisïau a chanllawiau cyfrifyddu statudol a chyfreithiol, ac yn unol â therfynau amser ac amserlenni, trwy gwblhau ei waith ei hun a rheoli gwaith aelodau eraill y tîm ac eraill sy’n gweithio oddi tano.
Mae perthnasoedd allweddol yn cynnwys Rheolwyr Gweithredol a Chlinigwyr y Bwrdd Iechyd a Darparwyr a Chomisiynwyr allanol.
Mae Disgrifiad Swydd manwl ynghlwm wrth yr hysbyseb ac mae'n cynnwys disgrifiad llawn o ddyletswyddau, cyfrifoldebau, sgiliau a rhinweddau personol.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Aelod sy'n gyfrifydd cwbl gymwys o sefydliad proffesiynol CCAB, neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol profedig,
- Profi eich bod yn gweithio ar Lefel Meistr neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio mewn swydd Cyllid uwch mewn sefydliad mawr.
- Profiad o drin data, ymchwilio a dadansoddi.
- Profiad o weithredu a gweithio rheolaethau Contractau GIG,
- Profiad helaeth o ddelio â sefydliadau allanol a rheoli CLG a chontractau.
- Profiad o reoli prosiectau a thasgau dros gyfnod cyflawni neu weithredu hir.
Tueddfryd a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth iawn a'i mynegi yn effeithio ar bob lefel o fewn y sefydliad a hefyd i gyrff allanol.
- Gallu dadansoddi perfformiad drwy amrywiaeth o dechnegau e.e. meincnodi
- Gallu gweithio o dan bwysau, blaenoriaethu a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth a manwl o gyfrifeg rheoli a Chyllid y GIG
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o godio Clinigol gan gynnwys ICD10, OPCS 4 a HRG 4
Meini prawf dymunol
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Sgiliau dylunio taenlenni a chronfeydd data uwch
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel iawn o hunanhyder, effeithiolrwydd personol, dycnwch a gwydnwch
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac i reoli ei waith ei hun i gyflawni o fewn terfynau amser
- Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â Gwerthoedd Sefydliadol, a galluogi eraill o fewn y gweithlu i wneud hyn.
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i ddiwylliant o welliant parhaus a datblygiad proffesiynol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ar draws safleoedd o fewn y Bwrdd Iechyd ac o fewn ardal ddaearyddol ehangach
- bydd angen mynychu cyfarfodydd y tu allan i oriau gwaith arferol ar draws daeryddiaeth y Bwrdd Iechyd a thu allan i ogledd Cymru.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gillian Milne
- Teitl y swydd
- Head of Healthcare Contracting - Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858733
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech mwy o fanylion, cysylltwch a Gillian Milne, Pennaeth Contractio Gofal Iechyd - Cyllid ar 03000 858733, neu trwy ebost @
NEU
Nia Sparks, Prif Reolwr Cyllid - Contractio ar 03000 858731, neu trwy ebost @
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector