Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Datblygu Ymarfer
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle cyffroes wedi dod i weithio gyda Thim Nyrsus Datblygu Ymarfer wedi'i leoli yn Bron Afon, Llanfairfechan ar Arfordir Gogledd Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rôl arweiniol ar nifer o ffrydiau gwaith penodol yn ymwneud â gofal Iechyd Meddwl a Dementia ynghyd â gofal nyrsio cyffredinol a ddarperir mewn cartrefi gofal Nyrsio. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ar draws ardal Ganolog Conwy a Sir Ddinbych er mwyn gweithredu rhaglenni gwaith sy'n cyd-fynd ag amcanion y bwrdd cenedlaethol ac iechyd.
Egwyddorion allweddol y swydd bydd canolbwyntio ar wella gofal a diogelwch cleifion trwy fabwysiadu amrywiaeth o ddulliau. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi staff o fewn y lleoliad cartref gofal nyrsio. Gall hyn olygu ymgorffori meysydd amlbroffesiynol eraill fel y'u diffinnir gan y Bwrdd Iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth broffesiynol a chlinigol yng nghartrefi gofal i'r Henoed Eiddil eu Meddwl a chartrefi gofal cyffredinol. Hefyd, i gwmpasu ar gyngor clinigol, i gynllunio gofal, agweddau ar godi ymwybyddiaeth ac addysgu ar Ddementia a materion iechyd meddwl a materion iechyd corfforol i bob Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol sydd yn gweithio ym mhob cartref gofal nyrsioar draws y ddwy sir.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Datblygu a chynal rhwydweithiau cyfarthrebu hynod effeithiol â rhanddeiliaid allweddol I gynorthwyo a sicrhau bod modd datblygu ymddygiad proffesiynol ac ystod o wybodaeth a sgiliau I’r holl staff.
Datblygu, hwyluso, cyflwyno a gwerthuso ynghyd ag arweinwyr Datblygu Arferion eraill a darparwyr Sefydliadau Addysg Uwch addysg a hyfforddiant ar gyfer nyrsys a chynorthwywyr Gofal Iechyd sy’n gysylltiedig ag anghenion yr ardal.
Asesu, cynllunio a gweithredu a gwerthuso rhaglenni addysg/addysgol I staff nyrsio a staff clinigol eraill I ategu at weithredu newid/datblygu sgiliau proffesiynol craidd; a datblygu mentrau arfer wedi’u seilio ar dystiolaeth er mwyn cyfrannu at sicrhau gofal ardderchog i gleifion.
Gwellau digelwch cleifion a lleihau risg glinigol drwy ddatblygu rhaglenni addysgol, asesu sgiliau clinigol a galluoedd clinigol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Sgiliau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cyfrifiadur
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NMC Cofrestredig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- sgiliau cyfarthrebu arbennig
Meini prawf dymunol
- Gallu i siarad cymraeg neu barodrwydd i gyflawni lefel llafar addas
- Cymhwyster addysgu ac asesu neu brofiad cyfwerth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leanne Williams
- Teitl y swydd
- Practice Development Team
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852639
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sioned Rees
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector