Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Gwaith Lles a Ni
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym ni’n recriwtio ar gyfer swydd Gweinyddwr Lles, Gwaith a Ni ac yn cynnig secondiad hyd at 31/03/2025. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r tîm Lles, Gwaith a Ni sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Lesiant ym Mryn y Neuadd, Llanfairfechan ac i gael profiad o fod yn rhan o’r tîm.
Bydd y Gweinyddwr Lles, Gwaith a Ni yn unigolyn tosturiol. Bydd ganddo ddiddordeb mewn llesiant a bydd yn cefnogi Strategaeth Lles, Gwaith a Ni ar draws gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Gan weithio fel aelod hanfodol o’r tîm, y brif swyddogaeth yw derbyn a chroesawu ymwelwyr i’r adran, weithiau yn bwynt cyswllt cyntaf, a chynnig cymorth gweinyddol i’r tîm. Bydd hyn yn cynnwys paratoi papurau, cadw cofnodion mewn cyfarfodydd, creu a choladu adroddiadau gweithgarwch a chyfrannu at ddadansoddi a deall themâu. Bydd y rôl yn cynnwys sicrhau bod y Ganolfan Lesiant yn groesawgar ac wedi’i chyfarparu’n addas ar gyfer staff sy’n ei defnyddio, yn ogystal â goruchwylio sesiynau cynefino, archebu lle a defnyddio’r gampfa.
Bydd y gweinyddwr yn hyfedr wrth ddefnyddio pob agwedd o gymwysiadau Microsoft Office.
Lleolir y swydd yn y Ganolfan Lles Staff ar safle Ysbyty Bryn-y-Neuadd, Llanfairfechan. Mae'n swydd addas i'w hystyried at ddibenion gweithio hyblyg a/neu rannu swydd.
Os hoffech chi ymweld â’r Ganolfan Lesiant a/neu drafod y swydd hon cyn ymgeisio am y swydd, cysylltwch â [email protected]
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol ar draws bob maes gwasanaeth gofal iechyd yn yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Bydd hyn yn gofyn i ddeilydd y swydd reoli dyddiaduron yn datrys ymrwymiadau dyddiadur sy'n gwrthdaro, trefnu cyfarfodydd, paratoi papurau cyfarfod a nodi cofnodion cyfarfodydd.
Bydd deilydd y swydd yn ffynhonnell wybodaeth, ac yn darparu gwybodaeth pan fo angen, yn cynnwys dadansoddi a chasglu adroddiadau yn unol â mecanweithiau adrodd lleol a chenedlaethol ar gyfer y meysydd gwasanaeth gwahanol.
Yn gweithio fel rhan o dîm, bydd deilydd y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf i'r tîm, gall hyn ymestyn i randdeiliaid eraill mewnol ac allanol. Bydd deilydd y swydd hefyd yn derbyn a chroesawu ymwelwyr i'r adran.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ 3 mewn Gweinyddu Busnes/RSA III/ECDL neu wybodaeth/profiad cywerth
- Addysg o safon dda - TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg neu Fathemateg neu gyfwerth
- Gwybodaeth am y GIG.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Rhywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth am fethodoleg prosiectau
- NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddiaeth swyddfa arwyddocaol
- Gallu defnyddio eich crebwyll a'ch barn eich hun i ddadansoddi a datrys problemau.
- Gallu cefnogi a chyflawni at gyfyngiadau amser ar ystod eang o brosesau gweinyddu.
- Profiad o gyfathrebu'n uniongyrchol ar bob lefel yn y sefydliad.
- Profiad GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad gweinyddu prosiect
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Cynhyrchu adroddiadau a chymryd cofnodion
- Gallu delio â gwybodaeth sensitive
- Gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Isabelle Hudgell
- Teitl y swydd
- Training, Development and Wellbeing Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852709
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector