Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Staff MEWNOL
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
DALIER SYLW BYDDWN OND YN DERBYN CEISIADAU AM SWYDDI GAN STAFF SY'N CAEL EU CYFLOGI GAN BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR
Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael
Mae Carreg Fawr yn Ward sefydledig ag 8 gwely, sy'n darparu gofal sy'n canolbwyntio ar Adferiad i gleifion ag anghenion gofal iechyd meddwl cymhleth a pharhaus.
Rydym am benodi Nyrs Staff Band 5 sy'n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel yn seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal a dilyn y llwybrau adsefydlu.
Am fanylion pellach/ymweliadau anffurfiol cysylltwch â:
Leighton Hobson
Rheolwr Ward
Carreg Fawr
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel nyrs a enwir i o leiaf un cleient yn yr uned a nyrs gyswllt ar gyfer o leiaf un cleient arall, gan ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf o ran gofal y rhai â salwch meddwl difrifol. Disgwylir i ddeilydd y swydd gyflawni’r holl ffurfiau gofal perthnasol heb oruchwyliaeth uniongyrchol, a bydd yn ofynnol iddo/iddi oruchwylio staff heb gymwysterau.
Mae Tan Y castell yn uned adsefydlu yn y gymuned ar gyfer pobl sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol ac yn cynnwys wyth gwely. Mae’n darparu gwasanaeth arbenigol i ogledd Cymru ar y cyd ag unedau adsefydlu eraill yn y Gwasanaethau Arbenigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
cymhwyster
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel 1af gofrestredig gyda'r NMC- RMN
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. diogelu. mentor
profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddarparu gofal nytsio cynannol- diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o fframwaith llywodraethu clinigol-gweithredu arfer sail tystiolaeth
sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth glir o gontract gofal. y gallui ddogfennu manylion yn glir ac yn gywir dealltwriaeth glir o weithdrefnau caniatad. sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o fframwaith llywodraethu clinigol- gweithedu sy'n seilliedig ar dystiolaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leighton Hobson
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852835
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Karen Farley
Tan y castell
Strud Mwrog
Rhuthun
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector