Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC535-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CAMHS Conwy
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £22,720 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/08/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Derbynnydd CAMHS Conwy
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am y swydd hon yn yr Uwch Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, wedi'i lleoli yn Ysbyty Llandudno.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn llawn cymhelliant ac sy'n frwdfrydig i ymuno â Thîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Ardal y Canol fel Cynorthwyydd Gweinyddol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth gweinyddol i dîm o staff clinigol a gweithredol, gan ymateb i weithio o dan bwysau mewn amgylchedd gwaith prysur.
Mae'n hanfodol bod gan ddeilydd y swydd ymagwedd hyblyg tuag at waith i gynorthwyo aelodau’r tîm ac i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Er nad yw profiad blaenorol mewn ysbyty yn hanfodol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos ei fod yn gallu darparu gwasanaeth ardderchog ar gyfer cwsmeriaid, a bydd ganddo sgiliau TG. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac i ddelio â sefyllfaoedd sensitif yn hanfodol, fel y mae'r gallu i weithio'n unol â therfynau amser tynn gan sicrhau bod modd darparu gwasanaethau'n effeithiol. Mae gwybodaeth gyfredol am WPAS yn ddymunol ond heb fod yn hanfodol gan y caiff hyfforddiant ei roi.
Bydd ymgeiswyr amser llawn a rhan amser/rhannu swydd yn cael eu hystyried.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
Arweinydd y Tîm Gweinyddol, CAMHS Sir Ddinbych
Arweinydd y Tîm Gweinyddol, CAMHS Conwy
Rheolwr Gweinyddol, CAMHS y Canol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth derbynfa, clercyddol a theipio i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), gan fod yn gwrtais, proffesiynol a sensitif bob amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar addysg o safon dda, sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio'n unigol a bod yn effeithiol, trefnus a gweithio'n hyblyg.
Mae arddull ffôn a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol. Mae gwybodaeth am System Weinyddu Cleifion yr ysbyty yn ddymunol, er bydd hyfforddiant yn cael ei roi. Bydd deilydd y swydd yn meddu ar RSA Lefel 2 neu gywerth. Disgwylir i ddeilydd y swydd allu arddangos arddull broffesiynol a sensitif bob amser. Oherwydd natur y dyletswyddau, disgwylir i'r Clerc cynorthwyydd gweinyddol gadw cyfrinachedd llwyr a disgwylir iddi/iddo ymdrin â chleifion, perthnasau, ac ymwelwyr yn gwrtais a doeth bob amser.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg o Safon Dda
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2/Gofal Cwsmeriaid
GOFYNION O RAN Y GYMRAEG
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o waith swyddfa a gweithdrefnau gweinyddol
Meini prawf dymunol
- Gweithio efo'r cyhoedd neu asiantaethau eraill
Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o feddalwedd Microsoft Office neu gyfwerth
RHINWEDDAU PERSONOL (Amlwg)
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Cywirdeb
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn tîm aml-ddisgyblaeth.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Pritchard
- Teitl y swydd
- Admin Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000851951
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Hughes - Rheolwraig Weinyddol, 03000 856039
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector