Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Theatr - Anaestheteg ac Adferiad
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r deilydd swydd yn gyfrifol am asesu gofal cleifion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ei gynllunio, ei weithredu a'i ddadansoddi. Defnyddir arbenigedd clinigol yn ystod pob cam o'r cyfnod yn ystod ac ar ol llawdriniaethau. Darperir cymorth galluog yng ngofal llawfeddygol y claf yn daparu gofal anaestheteg ac adferiad.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar y cyd ac yn gydweithredol ag aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol, gan gwrdd ag anghenion y claf heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol. Cynorthwyo i reoli a threfnu mannau clinigol ac ategol, gan weithredu gwelliannau i arferion gwaith fel y nodwyd mewn archwiliad/treialon clinigol. Cymryd rhan mewn addysg a datblygiad aelodau staff eraill a myfyrwyr.
Byddem yn hapus derbyn ceisiadau gan bobl gyda cymhwyster ODP neu gyda cymhwyster Nyrsio sydd gyda cymhwyster anaestheteg neu yn fodlon gweithio tuag ato.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cyfathrebu a datblygu perthynas waith proffesiynol dda gyda chlinigwyr a staff o bob band o fewn yr adran a mannau eraill i sicrhau'r gofal gorau i gleifion.
- Cymryd rhan i ddarparu a gwerthuso rhaglenni addysgol a gynigir.
- Arddangos gonestrwydd personol a phroffesiynol bob amser, gan ddarparu patrwm ymddwyn gadarnhaol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig NMC/ Ymarferydd Adran Llawfeddygol Cofrestredig HCPC
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu/mentora/asesu. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am y rôl o fewn amgylchedd theatr
Meini prawf dymunol
- Profiad o fewn yr adran llawdriniaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Parsons
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300851891
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector