Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Clwstwr
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, uchelgeisiol ac arloesol ymuno â thîm Cefnogi Clwstwr Ardal y Canol, yn ardal clwstwr Gorllewin Conwy.
Mae Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn faes cyffrous i weithio ynddo ar hyn o bryd. Mae’r rhaglen Datblygu Clystyrau Carlam (ACD) yn cynnig cyfleoedd i newid patrwm ein system, i ddod â gwasanaethau’n agosach at y claf, a hynny mewn modd cydgysylltiedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan annatod o’r Gymuned Iechyd Integredig (IHC) Ardal y Canol (Sir Gonwy a Sir Ddinbych), bydd eich gwaith yn sicrhau bod gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol ehangach yn cael eu datblygu a’u defnyddio’n effeithiol, gan wasanaethu’r boblogaeth leol drwy ddull system gyfan, fel bod pobl yn derbyn y gofal cywir, gan y gwasanaeth cywir, ar yr adeg gywir.
Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr clystyrau, arweinwyr grwpiau cydweithio proffesiynol ac aelodau’r Gymuned Iechyd Integredig i ddatblygu rôl a swyddogaeth clystyrau a grwpiau cydweithio proffesiynol.
Fel hwylusydd a chyfathrebwr gwych, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth i glystyrau a rhwydweithiau eraill, gan sicrhau eu bod yn gallu ymateb i anghenion y boblogaeth trwy gynllunio a darparu gwasanaethau effeithiol a chadarn, wrth arwain datblygiad ac arloesedd chwim.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Gofynion perthnasol eraill
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio rhwng lleoliadau yn brydlon
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Lefel arbennig o addysg gyffredinol gyda gwybodaeth am ystod o dechnegau ystadegol/rhifiadol, gweithdrefnau a gafwyd drwy gymhwyster at lefel gradd, neu brofiad perthnasol cyfwerth
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus megis ECD
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau TG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio i sefydliad GIG
- Profiad o ddadansoddi data sy'n ymwneud ag iechyd
- Profiad o ddadansoddi data a'i ddehongli
- Profiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd TG
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar draws gofal cychwynnol a gofal eilaidd
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu dynodi ffynonellau gwybodaeth allweddol a'u dadansoddi
- Gallu dadansoddi a chyfathrebu gwybodaeth gymhleth, ei dehongli ac adrodd arni i gynulleidfa amrywiol
- Gallu blaenoriaethu'n effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno ysgrifenedig a llafar wedi'u datblygu'n dda
- Hyfedr mewn sgiliau IT (Microsoft Office)
Meini prawf dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg
- Sgiliau rheoli prosiect
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ardderchog o reoli gwybodaeth ac IT, yn cynnwys: cynnyrch Microsoft; datrysiadau ar sail y we; mapio; systemau gwybodaeth
- Gwybodaeth o lifau gwybodaeth o fewn GIG Cymru
- Gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd cychwynnol a chymunedol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o reoli perfformiad
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu datblygu perthnasau effeithiol a'u datblygu gyda chydweithwyr a sefydliadau partner
- Gallu ymdopi â blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd
- Gallu creu a chynnal perthnasau personol da gydag ystod eang o unigolion a grwpiau
- Yn llawn cymhelliant, brwdfrydig, rhagweithiol ac arloesol
- Yn barod ac yn gallu dysgu syniadau newydd a'u dynodi
- Gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Jones
- Teitl y swydd
- Senior Cluster Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07971 996 637
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anogir ymgeiswyr i gael sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais neu yn ystod y broses ymgeisio. Byddem wrth ein bodd cael clywed gan ymgeiswyr sydd â diddordeb fel y gallwn ddweud mwy wrthych am y rôl!
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector