Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Gofal Brys
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru yn recriwtio Ymarferwyr Gofal Brys i weithio o fewn y Gwasanaeth. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gweithio tuag at Radd Meistr mewn Ymarfer Uwch a wedi ei gwblhau yr presgripsiynu annibynol ac archwiliad clinigol neu's agos at ei gwnlhau, hoffai ddod i weithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol o fewn y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau.
Ein nod yw darparu gofal o safon uchel i bobl Gogledd Cymru.
Mae'r oriau yn hyblyg ac yn denu cyfraddau uwch o gyflog ar yr holl oriau a weithir yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau.
Gall y gwasanaeth gynnig cefnogaeth i Ymarferwyr Gofal Brys i gynyddu gwybodaeth am ofal brys ac arweinyddiaeth trwy fentora a goruchwyliaeth glinigol.
Bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y rôl ac efallai y bydd cyfle i gwblhau Gradd Meistr llawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn darparu gofal yr un dydd i gleifion sy'n cyflwyno symptomau newydd a/neu waethygiadau acíwt o gyflyrau hirdymor sydd wedi cael diagnosis.
Mi fydd deiliad y swydd yn ymweld â chleifion yn eu cartref nad sydd ddim yn gallu mynychu un o’r canolfanau triniaeth.
Gweithio'n annibynnol mewn modd cyfannol gan ddefnyddio'ch sgiliau, eich profiad a'ch gwybodaeth i ddarparu gofal cynhwysfawr trwy asesiad i driniaeth a chyfeirio at Weithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd eraill pan fo angen.
Cymryd rhan mewn mentora a hyfforddi cydweithwyr i'w galluogi i ddatblygu sgiliau ac i helpu i wella'r gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych chi'n mwynhau her, os oes gennych angerdd i helpu eraill neu os ydych chi awydd dechrau newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â’n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith cymhwysedd ‘Balch o Arwain’.
Mwynhau bod yn rhan o weithio gydag arweinwyr ymgysylltiol ar bob lefel, a bod yn sicr ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun “Cyflogwr Hyderus gydag Anabledd”.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth yn ymwneud â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi'i gofrestru ar y ffurflen gais.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Addysg a Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Parafeddyg Cofrestredig/Nyrs Cofrestredig
- Wedi cwblhau'n llwyddiannus cwrs archwiliad clinigol ar lefel Meistr
- Wedi cwblhau’n llwyddiannus cwrs rhagnodi anfeddygol neu’n gweithio tuag ato at lefel Meistr
- Portffolio proffesiynol cyfredol sy'n adlewyrchu datblygiad proffesiynol
- Gradd mewn ymarfer proffesiynol neu lefel o ddatblygiad sy'n gyfwerth mewn maes clinigol perthnasol
Meini prawf dymunol
- ILS
- Gradd ymchwil
- Wedi cwblhau holl gydrannau MSc perthnasol
- Cymhwyster addysgu ac asesu a mentora
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol gofrestru
- Profiad o roi gofal cleifion mewn lleoliad gofal brys, gofal cychwynnol neu leoliad cymunedol
- Profiad o weithio amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Arfer clinigol a phrofiad sylweddol o weithio mewn rôl annibynnol/estynedig
- Profiad o reoli eraill
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog gan gynnwys deallusrwydd emosiynol er mwyn delio'n effeithiol â gwybodaeth gymhleth a sensitif am gleifion, cleifion sy'n gofidio neu gleifion sy'n ymosodol, neu'r rhai sydd â nam ar lefel eu dealltwriaeth
- Yn gallu ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â holl aelodau'r tîm amlddisgyblaethol a gwasanaethau eraill
- Yn gallu defnyddio ffurfiau amrywiol ar gyfryngau a systemau TG fel galwadau trwy fideo a Skype
- Yn gallu cynnal asesiadau cyfannol, dadansoddi gwybodaeth am gleifion neu sefyllfaoedd yn gritigol a gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau clinigol o ran y ffordd orau o weithredu
- Yn gallu gweithredu'n annibynnol yn unol â chanllawiau galwedigaethol
- Yn fedrus o ran nodi hanes clinigo
Meini prawf dymunol
- Asesiadau corfforol cynhwysfawr o holl systemau'r corff trwy gydol oes
- Sgiliau Clinigol:- • Dechrau/ailosod cathetrau wrethol gwrywod a benywod ac ailosod cathetrau uwch biwbig • Gofal clwyfau llym/cronig/ar ôl llawdriniaeth • Gofal a rheolaeth o ran y coluddyn • Gofal a rheolaeth yn achos cleifion ag anghenion diwedd oes • Yn gyfarwydd â gosod/paratoi gyrwyr chwistrell • Dilysu marwolaeth • Gofal PEGs
- Yn gallu trefnu a rhoi gofal clinigol o ansawdd uchel wedi'i seilio ar ymchwil gan gynnwys datblygu a gweithredu polisïau a phrotocolau.
- Dealltwriaeth glir am gyfrifoldeb ac atebolrwydd proffesiynol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Stewart
- Teitl y swydd
- GP OOH's Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07975853157
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector