Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Cleifion Allanol Cyhyrysgerbydol
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON
Mae cyfle gwych wedi codi i weithio fel ffisiotherapydd Band 6, i weithio yn adran cleifion allanol MSK yn Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn.
Mae'r gwasanaeth ffisiotherapi yn BIPBC yn cynnig llwybr gyrfa gyfan i Fand 8A fel ymarferydd clinigol uwch. Anogir gwella a datblygu gwasanaethau ac mae gan bob aelod o staff fynediad at oruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd.
Darperir cefnogaeth ardderchog, goruchwyliaeth a hyfforddiant mewnol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n ysgogi, yn frwdfrydig ac yn bositif sydd â diddordeb mewn therapi cyhyrysgerbydol a’r gallu i ymgysylltu yn dda gyda chleifion.
Rydym angen therapydd gyda sgillau rhesymu clinigol rhagorol mewn meddygaeth cyhyrysgerbydol, sydd â’r gallu I weithio yn annibynnol yn ogystal â rhan o dȋm, sydd yn eiriolwr dros hyfforddiant ôl-raddedig a fydd yn lawn gefnogol o weithio’n arloesol, arddangos arferion gorau a hyfforddiant.
Dylai’r ymgeisydd fedru ddangos profiad cyhyrysgerbydol / orthpaedeg perthnasol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Ffisiotherapi neu gyfwerth.
- Cofrestriad HCPC.
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o gorff hyfforddiant ol-radd proffesiynol priodol.
- Aelodaeth o grwp diddordeb clinigol / arbennig perthnasol.
- Cwrs addysgwr clinigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-gofrestru sylweddol.
- Tystiolaeth o gylchdroi craidd.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfrannu at CNG neu weithgorau.
- Profiad yn y maes arbenigol perthnasol.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG fel ffisiotherapydd a gweithio MDT/amlasiantaethol lle bo hynny'n berthnasol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhesymu clinigol rhagorol mewn ffisiotherapi.
- Yn gallu gweithio’n ymreolaethol yn eich maes clinigol.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol.
- Yn gallu arwain a chyfranogi mewn gwaith a hyfforddiant tim.
- Hunan-gymhelliad a symbylu eraill yn y tim.
- Sgiliau trefnu amlwg gan gynnwys blaenoriaethu a dirprwyo.
Meini prawf dymunol
- Cymryd rhan weithredol mewn ymchwil a chyfrannu at ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Sgiliau addysgu a goruchwylio da.
- Sgiliau ymchwil.
- Cymryd rhan mewn qwerthuso staff / PADR
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Yn gorfforol ffit ac yn gallu symud a chodi llwythi, gan gynnwys yn yr ystyr therapiwtig, drwy’r rhan fwyaf o’r dydd
- Yn gallu gweithio drwy ganolbwyntio’n ddwys drwy’r rhan fwyaf o’r diwrnod gwaith.
- Yn gallu cwrdd a gofynion cynllunio a darparu saith diwrnod y swydd
- Yn gallu gweithio mewn amgylchedd o straen lle gallai’r annisgwyl ddigwydd
- Yn gallu cwrdd a gofynion teithio’r swydd
Meini prawf dymunol
- Yn siarad Cymraeg
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth dda am gyflyrau cymhleth
- Uwch wybodaeth am yr anatomi a’r ffisioleg sydd wrth wraidd patholeg gymhleth
- Gwybodaeth weithio dda am bob maes llywodraethu clinigol gan gynnwys ansawdd, archwilio a rheoli risg
- Dealltwriaeth o gyfrifoldebau cyfreithiol y proffesiwn
- Dealltwriaeth dda bod angen casglu ystadegau a phrofiad o’u defnyddio
- Dealltwriaeth gyffredinol o bolisïau a gweithdrefnau BCUHB
- Ymwybyddiaeth o anabledd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynne Williams
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Physiotherapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07557312531
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector