Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Therapydd Galwedigaethol Arbenigol
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio fel Therapydd Galwedigaethol (Band 6) o fewn Timau Adnoddau Cymunedol Conwy o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Byddai'r swydd wedi'i lleoli o fewn un o Dimau Adnoddau Cymunedol Conwy (CRT) lle byddai disgwyl i chi weithio fel ymarferydd ymreolaethol gyda chydweithwyr o dîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Byddech yn gweithio'n agos gyda'r Therapyddion Galwedigaethol o fewn CRT's eraill Conwy gan gyflenwi ar draws y sir yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu asesiad ac ymyrraeth Therapi Galwedigaethol yn brydlon i gefnogi'r llwybr rhyddhau i asesu ac adolygu ac i leihau'r risg y bydd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Dylai fod gennych brofiad sylweddol o weithio o fewn gwasanaethau iechyd corfforol oedolion a chyda chleifion yn eu cartrefi eu hunain.
Byddwch yn ymarferydd hunan-gymhellol, gyda'r gallu i feddwl yn sydyn, a byddwch wedi datblygu sgiliau datrys problemau a chyfathrebu effeithiol. Dylech allu dangos sgiliau rhesymu clinigol uwch. Bydd cyfle i ddatblygu sgiliau clinigol ac arwain.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am rywfaint o waith rheoli a goruchwylio staff iau yr adran o ddydd i ddydd. Bydd hefyd angen goruchwyliaeth ffurfiol a chwblhau gwerthusiadau blynyddol gyda staff iau. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ehangach h.y. archwiliadau, datblygiadau gwasanaeth, mynychu cyfarfodydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau/ gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol a r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
profiad

Talent a Galluoedd

Gwerthoedd

Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cate Sheldon
- Teitl y swydd
- Community Occupational Therapy Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cate Sheldon
Arweinydd Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol
E-bost: [email protected]
Ffôn: 03000 8500031
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector