Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Dros do)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr/wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR733-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Uned Bryn Hesketh
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Ward - Uned Bryn Hesketh, Bae Colwyn

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Mae swydd wag ar gael yn Uned Bryn Hesketh ar gyfer Rheolwr Ward Band 7 dros do, a fydd yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, ar Ward Iechyd Meddwl Pobl Hŷn 13 gwely. 

Disgwylir i ddeilydd y swydd gynnig arweiniad ac arweinyddiaeth i aelodau cofrestredig ac anghofrestredig y tîm i asesu, cynllunio a gweithredu cyflawni gofal nyrsio o ansawdd uchel.

Bydd deilydd y swydd yn rhan o Uned Iechyd Meddwl Pobl Hŷn brysur.  Bydd y rheolwr ward â swyddogaeth allweddol i arwain datblygiad Model Gwasanaeth Iechyd Meddwl Pobl Hŷn Cleifion Mewnol Llym a byddwch hefyd â swyddogaeth arweiniol wrth ailddatblygu'r Uned a'i diroedd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A yw gofal cleifion a safonau nyrsio proffesiynol yn agos at eich calon chi ac a ydych yn gallu dangos gwerthoedd a rhinweddau arweinyddiaeth i fod yn arweinydd nyrsys a delfryd ymddwyn ardderchog?

 Bydd gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb parhaus dros reoli'r ward ar lefel weithredol, darpariaeth gwasanaeth o ran anghenion gofal, datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal a phennu safonau gofal, rheoli meddyginiaethau a rheoli cyllidebau. Bydd deilydd y swydd yn rheolwr llinell i staff y ward ac yn sicrhau bod yr holl hyfforddiant sy'n briodol i'r ddisgyblaeth a bod yr holl hyfforddiant craidd a hanfodol arall yn cael ei gwblhau.

Rydym yn chwilio am Reolwr Ward hynod weladwy a hawdd mynd ato i weithio yn Uned y Cleifion Mewnol sy'n ymroi i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn cyrraedd disgwyliadau'r boblogaeth a wasanaethwn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â=a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Curry
Teitl y swydd
Interim Acute Care Clinical Site Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745 538487
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg