Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Canolfan Trefnu Apwyntiadau a Mynediad Cleifion
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Mawrth - Gwener 09:00-17:00)
Cyfeirnod y swydd
050-AC509-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Clerc Mynediad ac Archebu

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â'r Ganolfan Mynediad ac Archebu Cleifion sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd yn barhaol. Rydym yn dymuno penodi unigolyn gweithgar i ymuno â’n tîm prysur. Mae’r rôl wedi’i lleoli mewn amgylchedd canolfan alwadau prysur a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm o staff profiadol sydd â chyfrifoldeb am reoli rhestrau aros a threfnu apwyntiadau i gleifion. Mae’r rôl hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu ardderchog, y gallu i wneud amryw o dasgau ar yr un pryd ac mae’r gallu i aros yn ddigynnwrf o dan bwysau yn hanfodol. 

Mae pedwar lle gwag ar gael.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio mewn canolfan archebu dan bwysau mawr, o fewn amgylchedd prysur y ganolfan alwadau, i ddarparu swyddogaeth weinyddol gywir a phrydlon i hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaeth archebu canolog proffesiynol, effeithlon ac effeithiol, ar gyfer amrywiaeth o glinigau cleifion allanol.

Defnyddio eich menter eich hun mewn sefyllfaoedd cymhleth weithiau i sicrhau bod cleifion yn cael eu harchebu yn unol â Thargedau Mynediad Lleol a Chenedlaethol.

Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, gan gefnogi aelodau eraill o'r tîm i gyflawni'r targedau Mynediad a gwasanaeth archebu sy'n canolbwyntio ar y claf.  Bod yn rhan o swyddogaeth weinyddol gydlynol ac integredig i'r gwasanaeth.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau:

Darparu gweinyddiaeth 'pwynt mynediad cyntaf' ar gyfer pob atgyfeiriad i'r Ganolfan Archebu.

Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad ac atgyfeiriad i'r Ymddiriedolaeth.

Defnyddio systemau gweinyddu cleifion lleol i reoli pob atgyfeiriad, rhestrau aros ac apwyntiadau ar gyfer pob claf mewn modd amserol

Mae angen dysgu Sgiliau Cymraeg wrth gael eu penodi i'r swydd

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych chi'n mwynhau her, yn awyddus i helpu eraill neu'n ffansi dechrau o'r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy'n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ledled Gogledd Cymru.  Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol a'n fframwaith cymhwysedd 'Balch i Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweinyddiaeth ymgysylltiedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rydym yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio drwy'r cyfrif e-bost sydd wedi'i gofrestru ar y ffurflen gais.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.  Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • TGAU, NVQ3 neu gymhwyster cyfwerth, TG
Meini prawf dymunol
  • TG neu ECDL, Hyfforddiant Gorfodol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Practis Ysbyty/Meddyg Teulu, Canolfan Alwadau, delio a'r cyhoedd yn gyffredinol, gweithio fel Tîm
Meini prawf dymunol
  • Gweithio gyda Staff Ymgynghorol/Clinigol, Rheoli Rhestrau Aros

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol, Y gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun, Y gallu i weithio o dan bwysau
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Deddf Gwybodaeth am Ddiogelu Data
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth o WPAS

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Defnyddio menter, Hyderus wrth ddelio ag amrywiaeth o bobl, agwedd gadarnhaol, Y gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn, Dangos dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol

Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Bydd angen dysgu'r Gymraeg pan fyddwch wedi'ch penodi i'r swydd

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nathan Morris
Teitl y swydd
PABC Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 843760
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fanylion pellach cysylltwch:

Gemma Elliott  (01745 448788 est: 7346)

PABC Rheolwr

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg