Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cefnogi Ystafell Chwarae
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Cydweithio fel aelod o'r tîm aml ddisgyblaethol i fodloni anghenion plant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed, a hynny ar sail unigol.
I wella iechyd a darparu gofal rhagorol. Rhowch gleifion yn gyntaf, Cydweithio, Gwerth a pharchu ei gilydd, Dysgu ac arloesi, Cyfathrebu’n agored ac yn onest
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Trefnu, cychwyn a gweithredu gweithgareddau chwarae â phlant/pobl ifanc
- Eu helpu i wella drwy chwarae cyn ac ar ôl eu triniaethau
- Gweithredu rhaglenni chwarae i blant/pobl ifanc ag anghenion penodol
- Gweithio mewn partneriaeth â rhieni
- Gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y tîm aml ddisgyblaethol i gynnig gwasanaeth o safon
- Tynnu sylw plant/pobl ifanc sy’n cael triniaethau ymwthiol
- Creu amgylchedd diogel ac esthetig
- Cefnogi cleifion, rhieni a staff
- Hyrwyddo chwarae fel gweithgarwch arferol mewn amgylchedd anarferol
- Cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau yn yr ysbyty
- Monitro, cynnal a gwella’r gwasanaeth chwarae presennol ar y cyd â gweddill y tîm
- Cymryd rhan yn yr holl raglenni cyn derbyn
- Cymryd rhan weithredol mewn hybu iechyd ledled yr uned paediatreg
- Helpu i ddatblygu’r gwaith chwarae ar draws y Bwrdd Iechyd, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
- Cynnal cyfrinachedd BOB amser
- Cynnal eich sgiliau eich hun drwy ddatblygiad personol a thrwy fynychu dyddiau astudio a chyrsiau
- Mynychu hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd pan fo gofy
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
- Trefnu, cychwyn a gweithredu gweithgareddau chwarae â phlant/pobl ifanc
- Eu helpu i wella drwy chwarae cyn ac ar ôl eu triniaethau
- Gweithredu rhaglenni chwarae i blant/pobl ifanc ag anghenion penodol
- Gweithio mewn partneriaeth â rhieni
- Gweithio mewn partneriaeth â'r holl asiantaethau yn y tîm aml ddisgyblaethol i gynnig gwasanaeth o safon
- Tynnu sylw plant/pobl ifanc sy’n cael triniaethau ymwthiol
- Creu amgylchedd diogel ac esthetig
- Cefnogi cleifion, rhieni a staff
- Hyrwyddo chwarae fel gweithgarwch arferol mewn amgylchedd anarferol
- Cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau yn yr ysbyty
- Monitro, cynnal a gwella’r gwasanaeth chwarae presennol ar y cyd â gweddill y tîm
- Cymryd rhan yn yr holl raglenni cyn derbyn
- Cymryd rhan weithredol mewn hybu iechyd ledled yr uned paediatreg
- Helpu i ddatblygu’r gwaith chwarae ar draws y Bwrdd Iechyd, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
- Cynnal cyfrinachedd BOB amser
- Cynnal eich sgiliau eich hun drwy ddatblygiad personol a thrwy fynychu dyddiau astudio a chyrsiau
- Mynychu hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd pan fo gofyn
Manyleb y person
Addysg / Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd
- Add ysg gyffredinol dda yn cynnwys mathemateg a saesneg gyda'r gallu i wneud NVQ lefel 3 gwybodaeth am bolislau a gweithdrefnau BCU
Meini prawf dymunol
- Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Astudiaethau Plentyndod/Lefel HNC
Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Spurgin
- Teitl y swydd
- Children's Unit Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844358
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector