Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Dirprwy Rheolwr Uned Newydd-Anedig
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Band 6 Dirprwy Reolwr Uned
Rydym yn awyddus i recriwtio i'n tîm newyddenedigol deinamig a byddwn wrth eich bodd yn dod i ymuno â ni.
Y SuRNICC yw'r uned newyddenedigol fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae'n cefnogi dwy uned gofal arbennig i fabanod yn Wrecsam a Bangor. Ni yw canolbwynt y rhwydwaith o ofal newydd-anedig ledled Gogledd Cymru.
Mae gan yr adeilad newydd mawr, modern, 5 cot gofal dwys, 5 cot dibyniaeth uchel a 9 o gotiau gofal arbennig, sy'n cael eu staffio gan weithlu proffesiynol a hyfforddedig iawn. Rydym yn darparu gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer babanod sâl a chyntymor yn ystod 26 wythnos o feichiogrwydd o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt. Rydym hefyd yn rhedeg gwasanaeth trafnidiaeth newyddenedigol 12 awr ac yn cynnig llety gwych i rieni ar y safle gyda Thŷ Croeso.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gael nyrs newydd-anedig brofiadol, ddeinamig a blaengar. Rydym yn chwilio am ddirprwy reolwr newydd-anedig gyda chymhelliant uchel ar gyfer y SuRNICC yng Ngogledd Cymru. Gyda sgiliau gweithio mewn tîm cryf, byddwch yn gallu dangos y gwerthoedd sy'n bwysig i ni, gan gyfathrebu'n dda â chydweithwyr a theuluoedd. Nid yw'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ond byddai'n fantais. Dylech feddu ar y weledigaeth a'r gallu i helpu i symud y gwasanaeth yn ei flaen, gan gael y gorau o'ch cydweithwyr a'ch tîm ac ni fydd byth yn cyfaddawdu ar ansawdd gan drin pobl eraill â pharch ac urddas bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli a sefydlu Uned y Newydd-anedig ar y cyd â Rheolwr yr Uned. Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal wedi'i seilio ar dystiolaeth i fabanod ar yr uned - gan roi gofal arbenigol ac athrylgar i fabanod y mae angen gofal cymunedol, trosiannol, dibyniaeth isel, dibyniaeth fawr a gofal dwys arnynt. Cyfrannu at addysgu a datblygu aelodau eraill o staff, sydd wedi cofrestru ac sydd heb gofrestru a bod yn rheolwr llinell iddynt. Cydweithio a chydweithredu â phobl eraill i ddiwallu anghenion cleifion â chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl neu dim goruchwyliaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rheoli a sefydlu Uned y Newydd-anedig ar y cyd â Rheolwr yr Uned. Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal wedi'i seilio ar dystiolaeth i fabanod ar yr uned - gan roi gofal arbenigol ac athrylgar i fabanod y mae angen gofal cymunedol, trosiannol, dibyniaeth isel, dibyniaeth fawr a gofal dwys arnynt. Cyfrannu at addysgu a datblygu aelodau eraill o staff, sydd wedi cofrestru ac sydd heb gofrestru a bod yn rheolwr llinell iddynt. Cydweithio a chydweithredu â phobl eraill i ddiwallu anghenion cleifion â chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl neu dim goruchwyliaeth.
Manyleb y person
Welsh criteria
Meini prawf hanfodol
- NLS
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o reoli
Welsh Criteria
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig â phrofiad ôl-gofrestru sylweddol
- Cymhwyster achrededig yn y newydd-anedig
- Profiad o ddatblygiad addysgol barhaus
- Gweithio ar lefel gradd
- Profiad helaeth mewn Uned ar gyfer y Newydd anedig ar fand 6 fel arweinydd tîm
- Profiad health o weithio mewn Amgylched Gofal Dwys ar gyfer y newydd-anedig
- Profiad o weithio amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o sgiliau arwain
- Tystiolaeth o addysgu a mentora
- Dealltwriaeth am arfer mewn perthynas â darpariaeth gofal iechyd
- Gwybodaeth am Bolisïau/Gweithdrefnau'r Sefydliad
- Yn gallu dangos dealltwriaeth am lywodraethu clinigol a chadw cofnodion yn dda
- Gwybodaeth fanwl am ffisioleg y Baban Newydd-anedig a'i gydberthynas â salwch yn ystod y cyfnod newydd-anedig.
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn nyrsio
- Cymhwyster addysg/Cwrs Mentora neu barodrwydd i ymgymryd ag ef
- Profiad o'r broses recriwtio
- Profiad o archwilio clinigol
- Sgiliau nyrsio uwch
- Cyfrannu at archwilio ac ymchwil
- Gosod safonau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joanne Dean
- Teitl y swydd
- Neonatal ward manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000844431
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector