Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Domestig
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 35 awr yr wythnos (Gweithio ar rota i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc 07:30-15:00)
Cyfeirnod y swydd
050-EA217-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£22,720 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cymhorthyydd Domestig

Gradd 2

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfleoedd ar hyn o bryd o fewn ein Hadran Gwasanaethau Domestig yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer unigolion brwdfrydig.   Mae’r tîm Gwasanaethau Domestig yn gyfrifol am sicrhau y cynhelir safonau o lendid amgylcheddol ac rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Domestig i wneud y dyletswyddau hyn o fewn ein hysbyty.  Bydd profiad blaenorol o weithio o fewn y diwydiant glanhau yn fuddiol ond ddim yn hanfodol gan y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth mewn swydd.  Bydd gwisg/dillad amddiffynnol hefyd yn cael eu darparu.

Gweithio ar rota i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc 07:30 - 15:00

Mae hon yn rôl gorfforol drom.  Os yw hyn yn swnio fel y swydd i chi, a bod gennych y brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth gyda synnwyr allweddol o olaf cwsmer, sylw i fanylder a ffocws i gyflawni, rydym eisiau clywed gennych chi heddiw.  Cliciwch i wneud cais, gan nodi pa swydd (neu swyddi) rydych chi'n teimlo fyddai fwyaf addas i chi yn yr adran Gwybodaeth Ategol ar y Ffurflen Gais. Hefyd, nodwch yn yr adran Gwybodaeth Ategol y sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn fuddiol i'r rôl hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cynnal safonau glendid lloriau, dodrefn a ffitiadau, yn ogystal â thynnu marciau o waliau/rhaniadau/drysau ac ati yn unol â dulliau, safonau ac amleddau penodol.
  • Gweithredu offer glanhau, gan gynnwys offer trydanol, er mwyn cyrraedd y safonau glanweithdra penodedig.
  • Trin sbwriel at ddibenion gwaredu.
  • Ailgyflenwi cyflenwadau o dywelion llaw papur, meinwe toiled, sebon a moisturiser llaw yn ôl y gofyn
  • Monitro'r stociau o ddeunyddiau glanhau, bagiau sbwriel, meinwe toiled, tyweli llaw papur, sebon llaw a moisturiser llaw a gofyn am gyflenwad yn ôl yr angen.
  • Trefnu eich llwyth gwaith eich hun o ddydd i ddydd o fewn canllawiau amserlennu gwaith i sicrhau bod yr holl dasgau glanhau yn cael eu cwblhau i'r safon a bennwyd.
  • Cwblhau dogfennau i gofnodi 'glân llawn' wedi'u cwblhau
  • Dangos dealltwriaeth o ddulliau ac amleddau glanhau penodedig.
  • Cyfathrebu â Goruchwylwyr Domestig, cleifion, ymwelwyr, staff wardiau ac adrannau er mwyn cyflawni'r safon glendid benodedig.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion da'r Bwrdd Iechyd a'r Adran.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Darren Owen
Teitl y swydd
Facilities Co-ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745 448788
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Goruchwylwyr Domestig ar 01745 448788 ehangwch: 6184

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg