Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Clerc Cymorth Gweinyddol Marwolaethau
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol arferol i ddarparu cymorth gweinyddol a chlercyddol effeithlon ac effeithiol yng ngwaith yr Adran Marwolaethau o ddydd i ddydd a fydd yn cynnwys:
Mewnbynnu data Adolygiad Marwolaethau o Swyddfa'r Archwiliwr Meddygol i DATIX.
Lledaenu gwybodaeth arferol, anfon/derbyn negeseuon a phrosesu ymholiadau gweinyddol.
Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol arferol i ddarparu cymorth gweinyddol a chlercyddol effeithlon ac effeithiol yng ngwaith yr Adran Effeithiolrwydd Clinigol o ddydd i ddydd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrifoldebau cyffredinol rôl y Clerc Cymorth Gweinyddol Marwolaethau:
- Darparu cymorth gweinyddol a chlercyddol cyffredinol i'r tîm Effeithiolrwydd Clinigol, gan gynnwys prosesu geiriau, cymryd nodiadau, ymdrin â negeseuon e-bost, ffeilio electronig, llungopïo/sganio adroddiadau a dogfennau eraill.
- Gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun, o fewn ffiniau gweithdrefnau gweithredu safonol a gyda mynediad at gymorth o bell trwy TEAMS.
- Ymateb yn unol â chyfarwyddyd y tîm Marwolaethau, i ymholiadau/gohebiaeth gan Swyddfa’r Archwiliwr Meddygol.
- Cefnogi’r tîm Marwolaethau gyda dyletswyddau teipio a gweinyddol cyffredinol gan gynnwys delio â negeseuon e-bost sy’n dod i mewn ac sy'n cael eu hanfon allan (mewnol ac allanol).
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • RSA Teipio lefel 2 neu gymhwyster/profiad cyfatebol
- • O leiaf tri TGAU (lefel C neu uwch) gan gynnwys Saesneg neu gymwysterau addysgol cyfatebol (er enghraifft, NVQ lefel 2)
- • Sgiliau TG ac ymwybyddiaeth gyfrifiadurol gan gynnwys gwybodaeth ymarferol o gyfres Microsoft Office (Word, Excel ac Outlook)
- • Gwybodaeth am/deall gweithdrefnau a systemau clercyddol.
Meini prawf dymunol
- • ECDL
- • Gwybodaeth o Systemau TG BIPBC (WPAS, iFIT, DATIX, ESR, EOL, TEAMS)
- • Hyfforddiant gofal cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad blaenorol o ddarparu cymorth clercyddol / gweinyddol
- • Cyfarwydd â gweithdrefnau gweinyddol ac yn gweithio i derfynau amser
Meini prawf dymunol
- • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG neu mewn lleoliad gofal iechyd
Sgiliau a Rhinweddau
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau cyfathrebu a threfnu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- • Y gallu i flaenoriaethu tasgau o fewn eich llwyth gwaith eich hun ac aml-dasgio
- • Cymhelliant, ystyriol a diplomyddol
- • Dull trefnus o roi cymorth
- • Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm a hefyd heb oruchwyliaeth (gyda chymorth o bell)
- • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol
- • Sgiliau rheoli amser da.
- • Deall cyfrinachedd
Meini prawf dymunol
- • Mae'r sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar lefel 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Agwedd hyblyg at ofynion y rôl
- • Gallu teithio ar draws ardal ddaearyddol PBC pan fo angen
- • Gallu gweithio o gartref pan fo angen
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Jones
- Teitl y swydd
- BCUHB Corporate Mortality Facilitator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector