Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Data , Digidol a Thechnoleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (Cyfnod Secondiad)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC440-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bangor,Abergele,Wrecsam
- Tref
- Bangor,Abergele,Wrecsam
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Swyddog Diogelwch Seibr & Chydymffurfio
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 9 mis oherwydd Cyfnod Secondiad.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae TGCh eisiau penodi Swyddog Seiberddiogelwch a Chydymffurfiaeth profiadol, hunan ysgogol iawn a brwdfrydig.
Mae’r swydd yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â thîm sy’n tyfu mewn sefydliad mawr sydd â Seilwaith TGCh cymhleth. Mae’r sefydliad wedi’i wasgaru dros ardal ddaearyddol sylweddol sy’n cynnwys 130 o safleoedd gyda 15,000 o ddyfeisiau ar gyfer defnyddwyr. Mae mwy a mwy o ddigideiddio Iechyd, a’r heriau diogelwch a ddaw yn sgil hynny, yn golygu bod hon yn swydd ddiddorol ac amrywiol gyda digon o her a chyfle i ddatblygu. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio y tu allan i’r oriau gwaith safonol weithiau. Bydd gofyn i chi ddangos proffesiynoldeb, a bod yn dilyn y datblygiadau o ran deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol, yn ogystal ag asesu ymgynghorwyr diogelwch o drydydd partïon.
Mae’n bosibl y gofynnir i ddeiliad y swydd weithio ar draws holl safleoedd a lleoliadau BCUHB, felly mae’r gallu i gael mynediad at drafnidiaeth (cyhoeddus a/neu breifat) i deithio oddi ar y safle yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel uwch aelod o’r Tîm Seiberddiogelwch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddwch yn sganio pa mor agored i niwed yw systemau, yn monitro Systemau Seiberddiogelwch, ac yn gweithio gyda thrydydd partïon i adolygu cydymffurfiaeth â’r arferion gorau. Efallai y bydd gofyn i chi ddirprwyo ar ran y Rheolwr Seiberddiogelwch a Chydymffurfiaeth phan fo hynny’n briodol.
Byddwch yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer digwyddiadau Seiberddiogelwch, a byddwch yn dangos dealltwriaeth arbenigol o’r dirwedd Seiberddiogelwch i gefnogi Canolfan Gweithrediadau’r Rhwydwaith, yn ogystal ag yn datblygu deunyddiau ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch ar gyfer y tîm TGCh a’r sefydliad.
Yn ogystal â gwybodaeth arbenigol am Wrthfirysau, Drwgwedd, SIEM, Mur Cadarn, IPS, Rheoli Patsys, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o’r system Seiberddiogelwch. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithredu, cynnal a gwella diogelwch o fewn seilwaith TGCh y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod rheolaethau priodol a chymesur ar waith yn unol ag arferion gorau’r diwydiant, heb beryglu gwaith hanfodol y sefydliad.
Byddai’n fanteisiol cael gwybodaeth ymarferol am Reoliadau Rhwydweithiau a Systemau Gwybodaeth 2018, a phrofiad o weithredu a rhoi cefnogaeth barhaus i System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) fel ISO27001 a Cyber Essentials+.
Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yn ogystal â bod yn harddwch gogledd Cymru, mae gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig nifer o fanteision:-
- Hawl i Wyliau Blynyddol Hael
- Cynllun pensiwn y GIG
- Polisiau gweithio’n hyblyg
- Cynlluniau Seiclo i'r Gwaith, Prydlesu Ceir, ac Aberthu Cyflog Technoleg
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Qualifications

Sgiliau

Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lee Evans
- Teitl y swydd
- Cyber Security And Compliance Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850593
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector