Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- SLT Gwasanaeth Strôc
- Gradd
- Gradd 6-7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP161-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £35,922 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Clinigol (Stroc)
Gradd 6-7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Fel rhan o ddatblygaid parhaus Gwasanaethau Stroc ar draw Gogledd Cymru, mae gennym gyfle cyffrous i groesawu ThILl Strôc Arbenigol Iawn i'n tîm oedolion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â swydd arweiniol i ddarparu a datblygu gwasanaethau ThILl ar draws y llwybr strôc, ochr yn ochr â'n cydweithwyr amlddisgyblaethol, a chyda cefnogaeth y tîm ThILl. Bydd y swydd yn hanfodol i ddarparu gofal ThILl ardderchog i Strôc, gan sicrhau bod ein gwasanaethau'n dilyn Canllawiau Clinigol Strôc Cenedlaethol, 2016, y Coleg Strôc Brenhinol.
Mae'r swydd hon yn swydd bontio, ac rydym yn annog ceisiadau gan therapyddion Lleferydd ac Iaith gradd 6 sy'n edrych i ddatblygu eu sgiliau clinigol ymhellach. Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cynnig rhaglen ddatblygu seiliedig ar gymhwysedd, gyda mentor a goruchwyliaeth uwch i alluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i symud ymlaen o radd 6 i swydd gradd 7 o fewn amserlen y cytunwyd arni.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad estynedig mewn asesu, diagnosis, triniaeth ac ymyriadau ansawdd bywyd ar draws lleoliadau llym, cymunedol a phreswyl, yn ogystal â gyda sefydliadau trydydd sector. Bydd yr ymgeisydd llwyddianu yn gallu arddangos tystiolaeth o arweinyddiaeth glinigol, megis arwain prosiectau datblygu gwasanaeth, archwilio clinigol ac i weithredu rhaglenni newid gwasanaeth. Byddent hefyd yn ymroddedig i weithio mewn tîm amlbroffesiwn ac yn medruarddangos sgiliau cyfathrebu hynod ddatblygedig, ynghyd â sgiliau trafod o fewn y fforwm hwn.
Mae gan ein adran systemau sefydledig ar gyfer cefnogi, goruchwylio a mentora proffesiynol a rheolaethol, ac mae'n ymroddedig i gefnogi datblygiad proffesiynol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd cymhwyster cydnabyddedig / cyfwerth mewn S<
- HCPC wedi'i gofrestru
- Astudiaeth ol-raddedig sy'n berthnasol i faes clinigol ar lefel Meistr neu brofiad amlwg cyfatebol ar y lefel hon
- Gallu dangos datblygiad proffesiynol parhaus e.e. portffolio DPP cyfredol, perthnasol.
- Hyfforddiant sgiliau goruchwylio clinigol
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o grwp rhwydwaith clinigol priodol
- Cymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol
- Tystysgrif Addysgwr Lleoliadau Ymarfer Achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol yn glinigol ym maes arbenigedd
- Profiad o arweinyddiaeth glinigol
- Dirprwyo i staff cymwysedig a staff nad ydynt wedi'u cofrestru
- Profiad o ddarparu addysg glinigol ym maes arbenigedd
- Tystiolaeth o addysgu yn y swydd
- Profiad sylweddol o arwain timau amlddisgyblaethol / amlbroffesiynol
- Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol
- Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau byr arbenigol a hyfforddiant uwch mewn perthynas ag arbenigedd clinigol
Meini prawf dymunol
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Darpariaeth therapi Cymraeg / Saesneg
- Profiad o ddarlithio'n allanol
- Profiad o reoli prosiectau
- Profiad clinigol ychwanegol neu brofiad sy'n gysylltiedig a gofal iechyd
- Profiad o arwain datblygiad / gwelliant gwasanaethau
- Profiad mewn ymchwil
Gwybodaeth a Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Y gallu i ddatrys problemau
- Gwybodaeth am offer asesu ar gyfer anhwylderau Oedolion / Pediatreg
- Y gallu i hunanwerthuso
- Sgiliau blaenoriaethu
- Profiad a gwybodaeth glinigol helaeth mewn perthynas ag arbenigedd
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a sgiliau Cyfathrebu Amgen ac Ategol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Lloyd
- Teitl y swydd
- Dirprwy Bennaeth, Therapi Iaith a Lleferydd
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07890025724
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ceri Childs
Arweinydd Tim
03000 851758
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector